Dyma ble y gallwch chi ganfod gwybodaeth am ein Cynllun Ardal Rhanbarthol ar gyfer Cwm Taf Morgannwg.

Rydyn ni wedi gweithio gyda phobl â phrofiadau byw, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i lunio ein blaenoriaethau rhanbarthol. Dysgwch sut y gwnaethon ni hyn isod.

Edrych ar ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth

Mae ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth (PNA) yn edrych ar anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ein poblogaeth, a hefyd ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny. Fe glywson ni gan gannoedd o bobl o bob rhan o’r rhanbarth wrth ddatblygu ein PNA, ac amlygwyd sawl maes sy’n bwysig i drigolion a gweithwyr proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghwm Taf Morgannwg.

Hacathonau

Drwy gydol hydref 2022 buon ni’n cynnal hacathonau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, pobl ag anghenion hygyrchedd, gofalwyr di-dâl, pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia, pobl hŷn, plant a phobl ifanc a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, yn ogystal â’r rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi. Gyda’n gilydd fe wnaethon ni edrych ar beth ddywedodd ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth wrthym, ac amlygwyd ffyrdd y gallen ni weithredu ar y cyd i wella gwasanaethau a chymorth.

Creu ein Cynllun Ardal Rhanbarthol

Fe wnaethon ni edrych ar yr holl fewnwelediadau ac awgrymiadau a ddeilliodd o'n hacathonau, a chreu blaenoriaethau o dan bob un o'n grwpiau poblogaeth yn ein cynllun. Mae'r blaenoriaethau hyn yn adlewyrchu beth ddywedodd ein trigolion a gweithwyr proffesiynol wrthym oedd yn bwysig iddyn nhw. Byddwn ni’n ceisio cyd-gynhyrchu gwelliannau, a bydd y cynllun yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol i adlewyrchu cynnydd a newidiadau.

Cynnwys ein cymunedau

Photo

2

Cafodd ein cynllun ei greu dros ddwy flynedd

Photo

500

Fe wnaethon ni gynnwys 500 o bobl

Photo

20+

Cafodd dros 20 o ganeuon, gweithiau celf, cerddi a sgetsys drama eu creu

Mae datblygu Cynllun Ardal Rhanbarthol yn dechrau gydag edrych ar anghenion ac adnoddau. Cliciwch drwy’r amserlen isod i ddarllen am ein taith.

2021/ 2022 - Datblygu ein Hasesiad Angehnion y Boblogaeth (PNA)

Yr asesiad hwn sy’n llywio pa wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant sydd eu hangen yn ein cymuned, a’r ystod o gefnogaeth a gwasanaethau sydd eu hangen i ateb y galw hwnnw.

Darllen mwy

Haf 2022 – Clywch Ein Lleisiau

Roedden ni eisiau dod â’r canfyddiadau o’n Hasesiad Anghenion y Bobl yn fyw, felly fe gyflwynon ni gyfres o sioeau ar gyfer pobl sy’n byw a gweithio ledled Cwm Taf Morgannwg.

Darllen mwy

Hydref 2022 – Ymgysylltiad cymunedol ar gyfer y Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae’r PNA yn dangos i ni beth sydd ei angen ar ein cymunedau, ond sut ydyn ni’n gweithredu gyda’n gilydd i ateb yr anghenion hynny? Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chymunedau a gweithwyr prof

Darllen mwy

Ebrill 2023 – cyhoeddi’r Cynllun Ardal Rhanbarthol

Cyhoeddir y cynllun, a byddwn ni’n amlinellu sut rydyn ni’n bwriadu cyflawni’r gweithredoedd. Bydd hyn yn golygu cyd-gynhyrchu gyda’n cymunedau a’n partneriaid.

Bydd y diweddariadau ar gael yn fuan.

Ein blaenoriaethau

Plant a phobl ifanc

Rydyn ni eisiau i bob plentyn a pherson ifanc fyw bywydau iach a hapus. Er mwyn creu dyfodol gwell, mae angen i ni sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Darllen mwy

Anableddau dysgu

Rydyn ni’n gwybod fod pobl yn profi anableddau dysgu mewn llawer o wahanol ffyrdd; ein nod yw sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed fel y gallan nhw gael mwy o berchnogaeth a rheolaeth dros eu bywydau.

Darllen mwy

Iechyd meddwl

Rydyn ni’n edrych ar ffyrdd o gefnogi iechyd meddwl pobl sy'n byw yn CTM. Mae hyn yn cynnwys gwella systemau i ddarparu gwell gwasanaethau, a chael gwared ar rwystrau ac anghydraddoldeb

Darllen mwy

Dementia

Rydyn ni’n gwybod y gall byw gyda dementia fod yn heriol, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi a bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.

Darllen mwy

Pobl hŷn

Rydyn ni’n sicrhau bod gan bobl hŷn y wybodaeth, y cyngor a’r gwasanaethau cywir, fel y gallan nhw wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd a’u gofal cymdeithasol, a pharhau i fyw’n annibynnol cyhyd â phosibl.

Darllen mwy

Gofalwyr di-dâl

Ein nod yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn teimlo eu bod nhw’n cael eu clywed a'u deall, a'u bod nhw’n gallu cael gafael ar y wybodaeth, y cyngor a'r gwasanaethau diweddaraf, fel grwpiau cymorth.

Darllen mwy

Hygyrchedd

Rydyn ni eisiau creu gwasanaethau hygyrch i sicrhau bod pobl ag anghenion hygyrchedd, gan gynnwys anableddau corfforol a namau ar y synhwyrau (dirywiad neu golli golwg, clyw neu'r ddau) yn cael eu grymuso i wneud dewisiadau a theimlo'n rhan o'u cymun

Darllen mwy

Niwroamrywiaeth

Rydyn ni eisiau creu Cwm Taf Morgannwg sy’n gyfeillgar i niwroamrywiaeth i sicrhau bod pobl niwroamrywiol a’u teuluoedd yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi.

Darllen mwy

Gwybodaeth bellach

Os na allwch chi ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni.

Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu gyda lleisiau ein cymunedau’n ganolog, gan ein bod ni wedi ymrwymo i flaenoriaethu’r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Drwy gydol y pum mlynedd byddwn yn rhannu diweddariadau ar gynnydd, ac yn gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau.

Mae angen i ni gydweithio i wella a darparu gwell gwasanaethau i bobl sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Yn dilyn ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth, mae ein Cynllun Ardal Rhanbarthol yn nodi’r camau gweithredu y byddwn ni’n eu cymryd fel partneriaid i sicrhau bod pobl yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt ar yr amser iawn, ac yn y lle iawn.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Interested in finding out more?

Cronfa Integreiddio Ranbarthol

Bydd ein Cynllun Ardal Rhanbarthol yn cael ei gyllido drwy’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol

Darllen mwy

Cymryd rhan

Darllenwch sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith yma.

Darllen mwy

Crynodeb Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Gellir gweld crynodeb o Asesiad Anghenion y Boblogaeth CTM (2022-2027) yma.

Lawrlwytho yma

Cofrestru

Cofrestrwch ar ein rhestr gyswllt er mwyn i ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, eich cadw’n wybodus ac wedi eich cynnwys.

Darllen mwy

Dyma Lynne

Yn y stori hon, cawn gwrdd â Lynne, oedd yn un o’r bobl gyntaf i sefydlu Pobl yn Gyntaf, grŵp eiriol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn Ne Cymru.

Darllen mwy

Dyma Bravon

Yn y stori hon, cawn gwrdd â Bravon, a anwyd ac a fagwyd yn Kenya cyn iddo symud i’r DU yn 2019. Mae Bravon yn Swyddog Ymgysylltu Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), sy’n gweithio ym

Darllen mwy

Dyma Ceri

Yn y stori hon, cawn gwrdd â Ceri sydd wedi bod yn gofalu am bobl, gan gynnwys ei rhieni’i hun, ers iddi fod yn ei harddegau.

Darllen mwy

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal eich gweithgareddau eich hun? Byddwn ni’n parhau i ychwanegu adnoddau i’r adran hon!

Mae Ein Llais yn Cyfri

Mae adroddiad Mae Ein Llais yn Cyfri yn cynnwys cynghorion gwych gan breswylwyr yn y gymuned ynghylch sut i gael sgyrsiau ystyrlon gyda phobl.

Lawrlwytho

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.