Cefndir

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg wedi datblygu Asesiad Anghenion y Boblogaeth i arwain pa wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant sydd eu hangen yn ein cymuned, a’r ystod o gefnogaeth a gwasanaethau sydd eu hangen i gwrdd â’r angen hwnnw.

Rhwng mis Mehefin a Thachwedd 2021, fe roddon ni gyfle i’n cymunedau gydweithio gyda chyfansoddwyr caneuon, artistiaid, beirdd a storïwyr i ddod â’u profiadau, eu teimladau a’u syniadau am y dyfodol yn fyw ar gyfer y dyfodol.

Ymgysylltwyd ag o leiaf 1,183 o drigolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful drwy amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys pecynnau cymorth ymgysylltu, trafodaethau grŵp, sioe deithiol, arolwg ar-lein a chyfres o ddigwyddiadau hac-a-thon.

 

Sut arweiniodd hyn at Clywch Ein Lleisiau?

Dywedodd ein cymunedau wrthym y rhwystrau a’r heriau niferus y maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd, a bu iddynt hefyd rannu eu syniadau ar gyfer newid.

Ysgrifennwyd nifer o ganeuon a straeon yn ystod y digwyddiadau. Gwyliwch y ffilm yma.

Roeddem am broffilio’r profiadau hyn yn eang.

Fe wnaethon ni greu ‘Hear Our Voices’ i ddod â phobl sydd â phrofiadau o fyw, gweithwyr proffesiynol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau at ei gilydd, fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i ysgogi newidiadau cadarnhaol.

 

Lawrlwythwch y llyfryn

Mae'r llyfryn yn cynnwys geiriau a lluniau i ddangos ein taith!

Lawrlwythwch yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.