Dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Cyflwyniad

Defnyddir y term 'anabledd dysgu' i ddisgrifio llawer o wahanol gyflyrau. Gall pobl â'r un anabledd dysgu brofi'r cyflwr hwnnw'n wahanol.

Mae'n bwysig bod pobl ag anableddau dysgu yn teimlo eu bod nhw’n cael eu clywed a’u cynnwys go iawn, a bod ganddyn nhw reolaeth a dewis dros eu bywydau eu hunain.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar weithio gyda sefydliadau a phobl ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth i edrych ar sut y gellir gwella cymorth a gwasanaethau i'r rhai sy'n eu defnyddio.

Rydyn ni wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr i nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella gwasanaethau a chymorth yng Nghwm Taf Morgannwg.

Dysgwch am ein blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yma.

Mae pobl ag anableddau dysgu wedi creu caneuon, darnau drama, cerddi a gwaith celf i ddod â'u profiadau’n fyw.

Darllenwch sut rydyn ni wedi clywed lleisiau pobl ag anableddau dysgu yma.

Oes gennych chi anabledd dysgu, neu ydych chi’n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu? Cofrestrwch i gymryd rhan yn ein gwaith yma.

Fy Niwrnod, Fy Ffordd!

Mae prosiect Fy Niwrnod, Fy Ffordd yn herio gwasanaethau i ddarparu cyfleoedd mwy amrywiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n fwy ystyrlon, yn ystod y dydd, trwy rymuso pobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau am yr hyn y maen nhw’n ei wneud yn ystod y dydd.

Agor

Darllenwch am y Siarter Anabledd Dysgu newydd

Mae’r Siarter yn dal gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau yn atebol i bobl sy’n byw ag Anableddau Dysgu.

Agor

Beth sy'n Bwysig i Fi?

Mae’r prosiect Beth sy’n Bwysig i Fi yn ddull cydgynhyrchiol o lunio blaenoriaethau gwasanaeth ar gyfer pobl ag Anabledd Dysgu a’u rhieni a’u gofalwyr ledled Cwm Taf.

Agor

Darllenwch sut mae pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cefnogi ar draws Cwm Taf Morgannwg isod.

Caredigrwydd yn y Cyfnod Clo

Beth mae caredigrwydd yn ei olygu i drigolion ar draws Cwm Taf Morgannwg?

Gwylio

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.