Cyflwyniad

Diffiniad cyfreithiol ‘gofalwr di-dâl’ yw person o unrhyw oedran sy’n gofalu am oedolyn neu blentyn anabl, ond sydd ddim yn derbyn tâl am hynny heblaw am lwfansau i ofalwyr. Term arall sy’n cael ei ddefnyddio yn aml i ddisgrifio’r amgylchiadau hyn yw ‘gofal anffurfiol’.

Does dim math ‘nodweddiadol’ o ofalwr. Mewn gwirionedd, gall pobl ifanc, oedolion ifanc, rhieni, oedolion o oedran gweithio a phobl hŷn oll fod yn ofalwyr. Yn y bôn, mae person yn ofalwr os yw’n gofalu am aelod o’r teulu, partner neu ffrind sydd mewn angen oherwydd eu bod yn dost, yn fregus neu gydag anabledd.

Mae bod yn ofalwr di-dâl yn gallu bod yn heriol. Dyma pam mae’n bwysig bod pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn eu deall, a pham mae’n bwysig bod y wybodaeth ddiweddaraf ar gael iddyn nhw ynghyd â chyngor a gwasanaethau, fel grwpiau cymorth.

Rydym wedi gweithio gyda gofalwyr di-dâl i nodi'r camau sydd eu hangen i wella gwasanaethau a chymorth yng Nghwm Taf Morgannwg.

Dysgwch am ein blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer gofalwyr di-dâl yma.

Mae gofalwyr di-dâl wedi datblygu darnau creadigol i ddod â'u profiadau'n fyw.

Darllenwch sut mae gofalwyr di-dâl wedi rhannu eu llais yma.

Cwrdd â Kay, ein cynrychiolydd gofalwyr

Fy enw i yw Kay Tyler ac rydw i’n gynrychiolydd gofalwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarth ers dros ddwy flynedd.

Mae fy mhrofiadau personol wedi fy helpu i ddeall a gwerthfawrogi pa mor bwysig yw cynnwys gofalwyr di-dâl yng ngwaith ein Bwrdd, gan ddefnyddio ein lleisiau, ein safbwyntiau a’n profiad byw i helpu i gynllunio, gwella a datblygu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu defnyddio.

Gwrandewch ar podlediad Kay

Cefnogi gofalwyr o bob oed yn CTM.

Cefnogaeth i ofalwyr

Yma, gallwch ddod o hyd i wybodaeth a phrofiadau y bydd yn helpu gofalwyr, gobeithio.

Darllen mwy

Creu amgylchedd cefnogol i ofalwyr ifanc ym Merthyr Tudful.

Mae sawl her i fod yn ofalwr ifanc. Yn ystod pandemig COVID-19, mae 'Prosiect Hyder' Barnardo’s wedi rhoi cymorth i'r bobl ifanc hyn mewn sawl ffordd.

Darllenwch ragor

Ydych chi'n ofalwr di-dâl, neu a ydych chi'n cefnogi gofalwyr di-dâl?
Cofrestrwch i gymryd rhan yn ein gwaith yma.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.