Rydyn ni’n dod â phobl ynghyd i gyflawni blaenoriaethau rhanbarthol a fydd yn gwella iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion.

Dewch o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Sut rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth i fywydau oedolion.

Ein pwrpas

Mae Bwrdd Rhaglen Gwasanaethau Oedolion Cwm Taf Morgannwg yn goruchwylio trawsnewid, datblygu a darparu gwasanaethau oedolion rhanbarthol a nodwyd.

Pwy ydyn ni

Mae ein haelodau’n cynnwys pobl o feysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector, addysg a thai.

Byddwn ni’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau rhanbarthol i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth yn diwallu anghenion oedolion sy’n byw ar draws y rhanbarth.

Sut byddwn ni'n gwneud hyn?

Byddwn ni’n gwneud hyn drwy fonitro cynnydd y gwasanaethau o fewn y cylch gorchwyl; sicrhau bod gwasanaethau'n cyflawni canlyniadau i oedolion; monitro cyllidebau a sicrhau bod Gwerth am Arian yn cael ei gyflawni, a nodi cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer comisiynu gwasanaethau sydd o fudd i oedolion.

Sut mae'r Bwrdd Gwasanaethau Oedolion yn gweithio?

Rydyn ni wedi llunio cynrychiolaeth weledol o'r bwrdd er mwyn i chi weld sut mae wedi'i strwythuro.

Strwythur lawrlwytho

Ein blaenoriaethau – ar beth fyddwn ni’n canolbwyntio dros y pum mlynedd nesaf?

Dementia

Rydyn ni’n gwybod y gall byw gyda dementia fod yn heriol, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi a bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.

Darllen mwy

Gofalwyr di-dâl

Ein nod yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn teimlo eu bod nhw’n cael eu clywed a'u bod yn cael eu deall, a'u bod yn gallu cael gafael ar y wybodaeth, y cyngor a'r gwasanaethau diweddaraf, fel grwpiau cymorth.

Darllen mwy

Iechyd meddwl

Rydyn ni’n edrych ar ffyrdd o gefnogi iechyd meddwl pobl sy'n byw yn CTM. Mae hyn yn cynnwys gwella systemau i ddarparu gwasanaethau gwell, a chael gwared ar rwystrau ac anghydraddoldebau.

Darllen mwy

Anableddau dysgu

Rydyn ni’n gwybod fod pobl yn profi anableddau dysgu mewn llawer o wahanol ffyrdd; a'n nod yw sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed er mwyn iddyn nhw allu cael mwy o berchnogaeth a rheolaeth dros eu bywydau.

Darllen mwy

Pobl hŷn

Rydyn ni’n sicrhau bod gan bobl hŷn y wybodaeth, y cyngor a’r gwasanaethau cywir, er mwyn iddyn nhw allu gwneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd a’u gofal cymdeithasol, a pharhau i fyw’n annibynnol cyhyd â phosibl.

Darllen mwy

Niwroamrywiaeth

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â meysydd iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector, y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i wella gwasanaethau a chymorth i bobl niwroamrywiol.

Darllen mwy

Pobl â namau ac anableddau ar y synhwyrau

Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl ag anableddau corfforol a namau ar y synhwyrau (lleihad neu golli golwg, clyw neu'r ddau) yn cael eu grymuso i wneud dewisiadau a theimlo'n rhan o'u cymunedau.

Darllen mwy

Eisiau derbyn diweddariadau gan y Bwrdd Gwasanaethau Oedolion Rhanbarthol?

shake-hand

Dewch i weld sut rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i wneud yn siŵr bod Cwm Taf Morgannwg yn lle da i fyw ynddo. Gallwch chi ddarllen ein gwerthoedd yma.

Meysydd gwaith

Ein meysydd o flaenoriaeth yw pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth, pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, plant a phobl ifanc, gofalwyr di-dâl, pobl hŷn a phobl gyda Dementia, anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau.

Ein cymunedau

Ein partneriaid

Rydyn ni'n dod â phobl sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, y trydydd sector, tai a'r sector preifat ynghyd.

Our partners

Ein pobl

Rydym ni’n dod â phobl ynghyd o bob rhan o Gwm Taf Morgannwg i ystyried sut allwn ni wella gwasanaethau.

Ein Pobl

Dogfennau defnyddiol

Yma, gallwch ddod o hyd i gofnodion cyfarfodydd a dogfennau eraill fydd yn rhoi gwybod i chi am ein gwaith a’n penderfyniadau.

Dogfennau Defnyddiol

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.