Dewch o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Beth yw Niwroamrywiaeth?

Mae Niwroamrywiaeth yn cyfeirio at ystod o wahaniaethau yn y modd y bydd pobl yn canfod, prosesu ac ymwneud â'r byd. Mae niwroamrywiaeth yn ffaith fiolegol – yn yr un ffordd ag y mae dynoliaeth yn amrywiol mewn nodweddion fel ethnigrwydd, rhywedd a thuedd rywiol, mae hi hefyd yn amrywiol yn niwrolegol. Mae'r niwramrywiaeth hyn yn rhan werthfawr a hanfodol o gymdeithas sy'n gweithredu. (NNT, 2026)

Beth yw Niwrowahaniaeth?

Mae Niwrowahaniaeth yn derm sy'n cwmpasu ystod o wahaniaethau niwrolegol: mae hi'n gyffredin i bobl gael mwy nag un o'r gwahaniaethau hyn – a elwir yn gyflwr niwrowahaniaethol lluosog. Does dim rhaid i rywun gael diagnosis i fod yn uniaethu fel rhywun niwrowahaniaethol. Dylem drin niwrowahaniaeth fel rhan normal o amrywiaeth ddynol.

Rydyn ni eisiau gwneud gwasanaethau'n well ar gyfer pobl niwrowahaniaethol a'u teuluoedd. Rydyn ni hefyd eisiau sicrhau fod mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am niwroamrywiaeth yn y gymdeithas ehangach, a fydd yn helpu i wella llesiant pobl niwroamrywiol. Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni sicrhau y gall pobl niwroamrywiol deimlo'n rhan o benderfyniadau, a chael eu cynnwys yn yr hyn sy'n effeithio arnyn nhw, a chael clywed eu lleisiau'n cael eu cynrychioli a'u clywed.

Rydyn ni’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion niwrowahanol, eu teuluoedd a’u gofalwyr i nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella gwasanaethau a chymorth yng Nghwm Taf Morgannwg.

Darllenwch ein blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer pobl niwrowahanol yma.

Dolenni defnyddiol

Gwybodaeth ar gyfer pobl niwroamrywiol

Cafodd ystod o adnoddau defnyddiol eu datblygu ar y cyd â phobl niwroamrywiol. Gally rhain helpu gyda gweithgareddau a chynlluniau beunyddiol.

Clicio yma

Gwybodaeth ar gyfer rhieni / gofalwyr

Cafodd ystod o adnoddau defnyddiol eu datblygu i gynyddu gwybodaeth, sgiliau, a dealltwriaeth o niwroamrywiaeth ac offer ymarferol i rieni a gofalwyr pobl niwroamrywiol.

Clicio yma

Modiwlau e-Ddysgu

Mae cyfres o fodiwlau e-ddysgu ar gael, sy'n canolbwyntio ar ystod o gyflyrau niwroamrywiol. Cafodd y modiwlau hyn eu cyd-gynhyrchu gyda phobl o'r gymuned niwroamrywiol, ac maen nhw'n cynnwys cyfraniadau fideo ganddynt.

Clicio yma

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS)

Cynlluniwyd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) i ddarparu asesiad a chefnogaeth i oedolion sy'n meddwl fod ganddyn nhw awtistiaeth o bosib, a'u teuluoedd

Clicio yma

Swyddog Arweiniol Awtistiaeth

Mae gan bob Awdurdod Lleol Arweinydd Awtistiaeth lleol. Dyma'r cyswllt allweddol ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am awtistiaeth yn eich ardal chi.

Clicio yma

Gwasanaethau Niwroddatblygiadol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Mae'r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn darparu asesiadau diagnostig i blant a phobl ifanc 2-17 oed, ar gyfer Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD).

Clicio yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.