Rydym wedi lansio ymgyrch newydd i godi safonau a gwella gofal dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Cyflwyniad i ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan’.

Mae Gwelliant Cymru, ynghyd â phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, wedi creu set o 20 o safonau gorfodol sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau dementia.

Gelwir y rhain yn ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru ’.

Fel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, rydym am ddod ynghyd â phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr a theuluoedd i sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd.

Gweithredu ar Wythnos Gweithredu Dementia 15-19 Mai

Mae Wythnos Gweithredu Dementia yn ymgyrch flynyddol sy'n cael ei harwain gan Gymdeithas Alzheimer. Eleni mae'r ffocws ar ddiagnosis.

Darllen mwy

Ymunwch â ni i lywio’r ffordd y mae gofal a chefnogaeth yn edrych i bobl sydd â dementia, gofalwyr a’u teuluoedd.

Pan rydym i gyd yn dod at ein gilydd, rydym yn gwneud pethau yn well i bawb.

Cofrestrwch yma

Dewch i ni ddod at ein gilydd i wella gofal a chymorth dementia.

Mae profiad pawb o ddementia yn wahanol – p'un a ydych wedi byw profiad o ddementia, yn gofalu am rywun â dementia, yn gweithio mewn gwasanaethau o ddydd i ddydd, neu'n rhan o'r gymuned leol. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd am wneud yn siŵr bod pobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn cael profiad cadarnhaol o dderbyn gofal a chymorth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Sut gallwch chi fod yn rhan o'r ymgyrch?

Pobl sy'n byw gyda dementia

Rydyn ni eisiau gwneud gofal a chymorth dementia yn well i chi. Gall eich profiadau ein helpu i ddeall pa newidiadau sydd angen eu gwneud i sicrhau bod pobl yn cael y gofal a’r cymorth gorau posibl.

Darllen mwy

Gofalwyr di-dâl sy'n cefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia

Rydym am wella ansawdd y gofal a’r cymorth dementia y mae’r person rydych yn gofalu amdano yn ei dderbyn. Gall eich profiadau o fod yn ofalwr i rywun annwyl â dementia ein helpu i ddeall pa newidiadau sydd angen eu gwneud.

Darllen mwy

Gweithwyr proffesiynol iechyd/gofal cymdeithasol

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd am wneud yn siŵr bod pobl â dementia yn cael profiad cadarnhaol o dderbyn gofal a chymorth. Os ydych chi'n gweithio mewn gwasanaethau dementia neu wasanaethau sy'n cefnogi pobl â dementia, mae angen i

Darllen mwy

Pobl sy'n byw yn y gymuned leol

Fel person sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf neu Ferthyr Tudful, efallai y byddwch chi'n gallu adnabod pan nad yw rhywun yn hollol eu hunain. Mae’n bwysig bod pobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr, a’u teuluoedd yn cael y cy

Darllen mwy

Rhwydwaith dementia

Gallwch chi fod yn rhan o ddylunio a datblygu’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu i bobl â dementia, a bod yn rhan o osod y blaenoriaethau ar gyfer cyflawni ar draws ein cymunedau. Hoffem glywed sut y credwch y gallwn wella pethau.

Darllen mwy

Partneriaid

Mae dementia yn fusnes i bawb - ac mae cyflawni yn erbyn y Llwybr Safonau Dementia yn gyfrifoldeb a rennir ar draws rhanbarth cyfan Cwm Taf Morgannwg, a ddarperir drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.