Rydym wedi lansio ymgyrch newydd i godi safonau a gwella gofal dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful

Rydym am wneud gofal a chefnogaeth dementia yn well

Mae Gwelliant Cymru, ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, pobl sy’n byw gyda dementia a gofalwyr, wedi creu set o safonau gorfodol sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau dementia.

Gelwir y rhain yn ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru ’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ei bod yn disgwyl gweld y safonau hyn yn cael eu cyflawni.

Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful i sicrhau bod y safonau’n cael eu bodloni.

Rydym yn defnyddio’r cyllid dementia a gawn gan Lywodraeth Cymru i wneud hyn.

Gallwch chi fod yn rhan o ddylunio a datblygu’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu i bobl â dementia, a bod yn rhan o’r gwaith o osod y blaenoriaethau ar gyfer cyflawni ar draws ein cymunedau.

Hoffem glywed sut rydych chi’n meddwl y gallwn wella pethau a byddem hefyd yn eich annog i rannu’r gwaith hwn ymhlith eich rhwydweithiau.

Hoffem glywed sut rydych chi'n meddwl y gallwn wella pethau a byddem hefyd yn eich annog i rannu'r gwaith hwn ymhlith eich rhwydweithiau.

Ymunwch â ni i siapio'r ffordd mae gofal a chymorth yn edrych am bobl sydd â dementia, gofalwyr a'u teuluoedd.

Pan fyddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd, rydyn ni'n gwneud pethau'n well i bawb.

Cofrestrwch yma

Mae angen inni edrych ar sut y gallwn wella gwasanaethau asesu cof ar gyfer pobl sy’n ceisio diagnosis.

Ydych chi’n adnabod rhywun a hoffai siapio sut olwg sydd ar ofal a chymorth dementia? Rhannwch y digwyddiadau isod.

Arwyddion rhybudd dementia

Rydym wedi creu llyfryn i helpu pobl i ddeall arwyddion a symptomau dementia.

Llwytho i lawr yma

Eisiau rhannu gwybodaeth am yr ymgyrch? Gallwch lawrlwytho ein taflen ddigidol yma.

Eisiau rhannu gwybodaeth am yr ymgyrch? Gallwch lawrlwytho ein taflen ddigidol yma.

Lawrlwytho yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.