Pam fod angen ein diffiniad ein hunain arnom ar gyfer cyd-gynhyrchu yng Nghwm Taf Morgannwg?

Yn ei hanfod, mae cyd-gynhyrchu’n ail-gydbwyso strwythurau grym er mwyn creu llwyfan cyfartal, cytbwys ac ymddiriedol ble gall pbol ddod o hyd i atebion gyda’i gilydd.

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gallai hyn olygu fod rhywun â phrofiad byw a gweithiwr proffesiynol yn cydweithio i wella gwasanaeth.

Mae ymchwil a wnaed gan brosiect Mae Ein Llais yn Cyfri yn 2019 yn dangos fod gan bobl ddealltwriaeth gyffredinol o gyd-gynhyrchu yng Nghwm Taf Morgannwg.

Gwyddom fod ieithwedd yn gallu bod yn rhwystr. Weithiau gellir diffinio cyd-gynhyrchu mewn sawl ffordd, gan greu dryswch ac anhawster wrth roi bys ar sut mae cyd-gynhyrchu da’n edrych.

Er mwyn taclo’r rhwystr hwn, rydym ni wedi gweithio gyda phobl sydd â phrofiadau byw, a gweithwyr proffesiynol i greu ein diffiniad ein hunain.

Dewiswyd y geiriau yn ein diffiniad yn ofalus gan bobl syn byw ac yn gweithio yn ein rhanbarth.

Drwy ddefnyddio iaith sy’n bwysig i’n cymunedau, rydyn ni mewn lle da i gychwyn ar gyd-gynhyrchu!

 

Craidd cyd-gynhyrchu yw adeiladu perthynas a datblygu ymddiriedaeth, meddai Jenny Mushiringani Monjero

Mae cyd-gynhyrchu’n air y bydd llawer o bobl yn ei ddweud, ond beth mae’n ei olygu, a sut allwn ni wneud hyn yn effeithiol yng Nghwm Taf Morgannwg? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu cymunedol? Dyma Jenny Mushiringani Monjero, Cydlynydd Cyd-gynhyrchu ac Ymgysylltu Rhanbarthol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg i esbonio..

Darllen mwy

Sut gyrhaeddon ni i’r fan hon?

Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn disgrifio cyd-gynhyrchu fel hyn*:

Ystyr cyd-gynhyrchu (gwasanaethau cyhoeddus) yw fod pobl sy’n darparu ac yn cyflawni gwasanaethau, a phobl sy’n cael mynediad i’r gwasanaethau hyn ac yn eu derbyn, yn rhannu grym a chyfrifoldeb, ac yn cydweithio er budd cyffredin mewn perthynas gyfartal, gytbwys a gofalgar.

Mae’n galluogi:

  • Pobl i gael mynediad i gefnogaeth ystyrlon pan fo’i angen
  • Gwasanaethau i fod yn effeithiol, ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl
  • I bobl, gwasanaethau a chymunedau ddod yn asiantwyr mwy effeithiol i newid.

*trwy garedigrwydd Rhwydwaith Gyd-Gynhyrchu Cymru

Cyd-gynhyrchu’r hac-a-thon Cyd-gynhyrchu

Mae cyd-gynhyrchu’n cymryd amser.

Os yw’n cael ei wneud yn effeithiol, bydd yn helpu i oresgyn rhwystrau, a chanfod atebion, er mwyn galluogi i wasanaethau gael eu creu i ateb angehnion y rheiny sydd ei hangen mewn modd go iawn.

Ym mis Medi 2022 fe ddaethon ni â phobl oedd â phrofiadau byw ynghyd â gweithwyr proffesiynol i edrych ar sut y gallwn gyd-gynhyrchu’n fwy effeithiol fel rhanbarth.

Fe dreulion ni’r diwrnod ar fformat ‘hac-a-thon’. Bydd hac-a-thon yn para tua phedair awr, ac mae’n gweld grwpiau bach yn gweithio gyda rhywun creadigol proffesiynol i edrych ar heriau, ac amlygu sut i’w datrys ar y cyd mewn ffordd wahanol ac arloesol.

Darllen ein canfyddiadau yma.

Cyd-ddadansoddi gwybodaeth

Cafodd yr holl wybodaeth a gasglwyd drwy’r digwyddiad hwn ei goladu a’i gyflwyno wedyn i dîm cyd-ddadansoddi llai, oedd wedi hunan-gyfeirio, o 15 unigolyn, aeth ati i archwilio’r holl feddyliau a syniadau roedd pobl wedi’u cynnig yn yr hac-a-thon Cyd-gynhyrchu, a thrwy gyfrrwng cyfres o weithgareddau, fe amlygwyd cyd-gyffredinedd geiriau, ystyr a bwriad i gyd-gynllunio’r diffiniad rhanbarthol terfynol o gyd-gynhyrchu.

Wedyn fe ymgymeron ni gyfres o weithgareddau i wirio ystyr, gan roi cyfle i ragor o bobl fwydo i mewn a bod yn rhan o’r broses, tan i gymeradwyaeth derfynol gael ei chanfod gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sydd ers hynny wedi cymeradwyo mabwysiadu’r diffiniad hwn.

I gyd, cymerodd 183 unigolyn o bob cwr o ranbarth Cwm Taf Morgannwg ran mewn datblygu’r diffiniad hwn, a lansiwyd yn swyddogol ddydd Gwener 19 Mai 2023, fel rhan o Wythnos Gyd-Gynhyrchu Cymru.

Involving our communities ensures we can create better health, social care and wellbeing services. See below for related work, and more information!

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan??

Os hoffech ymuno â'n taith gydgynhyrchu, gan gynnwys cymryd rhan mewn hyfforddiant, cofrestrwch yma..

Cofrestrwch yma

Cronfa Integreiddio Ranbarthol

Bydd ein Cynllun Ardal Rhanbarthol yn cael ei gyllido drwy’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol

Darllen mwy

Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Rydym wedi nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cymunedau yn ein Hasesiad Anghenion Poblogaeth. Yma rydym yn esbonio sut y buom yn gweithio gyda chymunedau i nodi'r rhain.

Darllen mwy

Cyd-gynhyrchu mewn argyfwng

Cyd-gynhyrchu Mewn Argyfwng: Gwerthfawrogi lleisiau Cwm Taf Morgannwg drwy bandemig Covid-19'. Mae'r adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect Our Voice Matters, yn rhannu enghreifftiau o arfer da ac argymhellion ar gyfer ymgorffori cydgynhyrchu mewn

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.