Byddwn ni’n dod â phobl at ei gilydd i gyflawni ar flaenoriaethau rhanbarthol a fydd yn gwella iechyd a gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc.

Dewch o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Sut ydyn ni’n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc.

Ein pwrpas

Rydyn ni’n goruchwylio trawsnewid, datblygu a darparu gwasanaethau plant rhanbarthol ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Pwy ydyn ni

Mae ein haelodau’n cynnwys pobl o feysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector, addysg a thai.

Byddwn ni’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau rhanbarthol i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc sy’n byw ar draws y rhanbarth.

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

Byddwn ni’n gwneud hyn drwy fonitro cynnydd y gwasanaethau o fewn cylchoedd gorchwyl; sicrhau bod gwasanaethau'n cyflawni'r canlyniadau a ragwelir i blant a phobl ifanc; monitro cyllidebau a sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei gyflawni, a nodi cyfleoedd ar gyfer comisiynu gwasanaethau rhanbarthol.

Sut mae'r Bwrdd Gwasanaethau Plant yn gweithio?

Rydyn ni wedi llunio cynrychiolaeth weledol o'r bwrdd er mwyn i chi weld sut mae wedi'i strwythuro.

Strwythur agored

Pa brosiectau ydyn ni’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd?

Image

Cefnogaeth cyn geni

Hyrwyddo iechyd, perthyns a llesiant cadarnhaol rhwng rhieni a babis.

Rydyn ni’n gweithio gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd i gefnogi rhieni bregus cyn i fabanod gael eu geni, i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael ganddyn nhw i hybu genedigaeth ddiogel a rhianta cadarnhaol.

Image

Gwasanaeth Cymorth Parhaol Amlasiantaethol (MAPSS)

Mae MAPSS yn darparu cymorth therapiwtig i blant sy'n derbyn gofal sy'n byw ar draws CTM.

Rydyn ni’n gweithio gydag asiantaeth trydydd sector i ddarparu therapi a chymorth dwys i blant sy’n derbyn gofal sy’n byw mewn gofal maeth neu gartrefi plant.

Image

Gwella gwasanaethau niwroamrywiol

Creu gwasanaethau niwroamrywiol da i blant a theuluoedd.

Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid i wella gwasanaethau a chymorth rheoli ymddygiad ar gyfer plant niwroamrywiol a’u teuluoedd.

Image

Llety ar gyfer plant ag anghenion cymhleth

Gwella tai sy'n diwallu anghenion plant sy'n derbyn gofal yn well ar draws y rhanbarth.

Rydyn ni’n profi modelau newydd o ofal preswyl i greu llety pwrpasol ar gyfer plant ag anghenion iechyd a llesiant mwy cymhleth ac emosiynol.

Image

Cefnogi llesiant emosiynol plant

Meithrin gwytnwch emosiynol plant i annog datblygiad iechyd meddwl cadarnhaol.

Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid i wella iechyd emosiynol, llesiant a gwytnwch plant oedran cynradd trwy chwarae a gwasanaethau a leolir yn yr ysgol.

Dywedodd Tom*:

“Pe bawn i’n gallu rhoi cyngor i unrhyw blentyn arall, neu i’r gwasanaethau cymdeithasol, byddwn i’n dweud wrthyn nhw am ddod i weld y tŷ hwn a phrofi iddyn nhw, os oes gyda chi broblemau fel fi, fe allech chi gael tŷ fel hwn, a byddai’n newid eu bywyd. Y bywyd gorau ges i erioed yw byw fan hyn.”

Person ifanc ag anghenion cymhleth sydd wedi cael cymorth i fyw mewn llety a gomisiynwyd drwy’r Bwrdd Plant Rhanbarthol.

*Enw wedi’i newid

Eisiau derbyn diweddariadau gan y Bwrdd Gwasanaethau Plant Rhanbarthol?

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.