LLETY AR GYFER PLANT SY'N DERBYN GOFAL

Gwella argaeledd ac amrywiaeth gwasanaethau gofal cartref plant

Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i gefnogi datblygu cyfleusterau llety preswyl newydd a gynlluniwyd gan ystyried plant a phobl ifanc. Byddwn ni’n gwneud hyn drwy helpu darparwyr i gael mynediad at arian i ddatblygu cartrefi. Dyma symudiad i gyfeiriad yr ‘agenda dileu elw’, model nid-er-elw a yrrir gan Lywodraeth Cymru. Ein nod yw sicrhau bod plant yn cael eu lletya mor agos i gartref â phosibl, yn agos at eu rhwydwaith cymorth ffrindiau a theulu.

 

 

Darllen mwy

SWYDDI A SGILIAU

Gwella’r cynnig i bobl ifanc gael swyddi a sgiliau yn dilyn addysg ffurfiol

Hoffem ymgysylltu â phartneriaid i ddeall cynlluniau i wella rhagolygon swyddi a sgiliau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau perthnasol i ddeall rhwystrau a chyfleoedd.

Er bod hyn y tu allan i gylch gorchwyl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, drwy gysylltu â phartneriaid, ein gobaith yw gallu:

  • Gwella opsiynau a hygyrchedd llwybrau i bobl dros 16 oed
  • Sicrhau bod gan bobl ifanc y cytundebau priodol yn eu lle i osgoi dioddef camfanteisio
  • Moderneiddio’r trefniadau rhanbarthol presennol ar gyfer derbyn cyngor gyrfaoedd
Darllen mwy

LLEOEDD CYMUNEDOL

Datblygu mannau cymunedol ble gall plant a phobl ifanc deimlo’n ddiogel a chael hwyl

Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaethau perthnasol i wella mynediad ac argaeledd mannau cymunedol i blant a phobl ifanc ar draws y rhanbarth.

Trwy’r gwaith hwn, rydym ni’n gobeithio:

  • Gwella argaeledd a mynediad i wybodaeth allweddol fel bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt
  • Gwella trefniadau trafnidiaeth gyhoeddus
  • Cyd-ddylunio a chyflwyno cynllun mannau diogel cymunedol i bobl ifanc
Darllen mwy

IECHYD MEDDWL

Gwella cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc

Rydyn ni eisiau gwella iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc sy’n byw yn ein rhanbarth, a chynyddu mynediad at gymorth.

Ein nod yw:

  • Cydweithio i weithredu fframwaith NEST
  • Cael gwell dealltwriaeth o’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i bobl ifanc, o’r rhai ataliol i’r rhai arbenigol
  • Gwella gwybodaeth staff a gweithwyr proffesiynol ar draws y rhanbarth fel y gallant gefnogi pobl ifanc i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant
  • Gwella cymorth arbenigol i blant a phobl ifanc sy’n profi problemau iechyd meddwl
  • Lleihau’r amseroedd aros i blant a theuluoedd gael diagnosis o anhwylder niwroddatblygiadol
Darllen mwy

CHWARAEON, HWYL, HAMDDEN A DIWYLLIANT

Mwy o weithgareddau chwaraeon, hamdden, diwylliant a hwyl i blant a phobl ifanc

Ein nod yw gweithio gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaethau eraill i gynyddu argaeledd a hygyrchedd gweithgareddau chwaraeon, hamdden, diwylliant a hwyl i blant a phobl ifanc.

Darllen mwy

CADW TEULUOEDD GYDA'I GILYDD

Cefnogaeth ymddygiad i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd

Drwy gyfrwng y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, byddwn ni’n ariannu gwasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd.

Darllen mwy

Beth rydyn ni wedi’i gyflawni

Photo

40+

Mae dros 40 o bobl ifanc, pobl a gweithwyr proffesiynol wedi ymwneud â chreu'r blaenoriaethau hyn.

Photo

4

Bydd tri gweithgor yn symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Photo

25+

Mae dros 25 o ddarnau creadigol wedi’u creu i rannu sut mae pobl ifanc yn teimlo am y themâu hyn.

Dysgwch fwy am ein gwaith i wella gwasanaethau a chymorth i blant a phobl ifanc yma.

Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi? Cysylltwch!

Drwy gydol y pum mlynedd byddwn yn rhannu diweddariadau ar gynnydd, ac yn gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiadau byw, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i fod yn rhan o’n gwaith. Gallwch gofrestru ar gyfer ein tudalen gyswllt, a hefyd gofrestru i fynychu ein digwyddiadau.

Mae’r Cynllun Ardal Rhanbarthol llawn ar gael yn y ddolen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk.

Lawrlwythwch y Cynllun Ardal Rhanbarthol

Rydyn ni wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw, a pha gamau y mae angen eu blaenoriaethu. Byddwn ni’n parhau i gynnwys plant a phobl ifanc wrth ddylunio a gwerthuso gwasanaethau, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’u hanghenion.

Ariennir prosiectau ar gyfer plant a phobl ifanc gan Lywodraeth Cymru. Cydlynir y cronfeydd hyn drwy’r Uned Gomisiynu Ranbarthol gyda phartneriaid ar draws iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a’r sector annibynnol.

Bydd ein Bwrdd Gwasanaethau Plant Rhanbarthol nawr yn adolygu’r camau gweithredu sydd eu hangen i roi’r blaenoriaethau hyn ar waith; gweithio gyda gweithwyr proffesiynol a phobl â phrofiadau byw i wella gwasanaethau a chymorth.

Diweddariadau diweddaraf

Ydych chi'n berson ifanc neu'n gweithio gyda phobl ifanc?
Rhannwch eich barn ar y blaenoriaethau hyn.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.