Cefndir

Mae angen i ni sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn byw bywydau diogel, iach a chyflawn a’u bod yn gallu cyflawni eu llawn botensial.

Rydyn ni eisiau deall beth sy’n bwysig i blant a phobl ifanc sy’n byw yn ein rhanbarth, a pha gamau sydd angen eu cymryd i wella gwasanaethau a chymorth.

 

Adeiladu ar yr hyn y mae plant a phobl ifanc eisoes wedi’i ddweud wrthym.

Mae plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol wedi dweud wrthym beth sy’n bwysig iddyn nhw, a’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu. Nawr yw’r amser i nodi camau gweithredu allweddol i’w cymryd, fel y gallwn ddechrau gwneud newidiadau cadarnhaol.

Edrych yn ôl i symud ymlaen

Er mwyn llunio ein cynllun gweithredu, yn gyntaf roedd angen i ni edrych ar yr heriau a nodwyd gan blant a phobl ifanc yn ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth. Roedd nifer o themâu allweddol yr oedden ni eisiau’u hadolygu’n fanylach gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol, er, mwyn deall pa gamau gorau i’w cymryd.

Canfyddiadau allweddol o'r hac-a-thon

Rhaid i bobl â phrofiadau byw a gweithwyr proffesiynol gydweithio i ysgogi newid ystyrlon.

Yn ystod ein hac-a-thon ar gyfer plant a phobl ifanc, rhannwyd pawb yn grwpiau i edrych ar:

  • Swyddi a sgiliau
  • Lleoedd cymunedol a diogelwch
  • Iechyd meddwl
  • Mynediad i hwyl
  • Ymddygiad a chefnogaeth

Isod rhannwyd rhai o’r canfyddiadau allweddol o’r darnia-a-thon.

 

Sut y gellir gwella gwasanaethau?

I grynhoi, hoffai plant a phobl ifanc weld:

  • Ymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth, a chyfleoedd cyflogaeth mwy cefnogol gyda hyblygrwydd i gwrdd ag anghenion a dymuniadau mewn perthynas â llwybrau gyrfa
  • Ymgyrchoedd wedi’u targedu ar gyfer cyflogaeth ieuenctid gyda phrosesau ymgeisio haws, gofynion profiad llai llym, a mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu sy’n seiliedig ar sgiliau
  • Pob cyfathrebiad i gael ei gyflwyno mewn fformatau syml, hygyrch a chyfeillgar i blant
  • Rhagnodi cymdeithasol i’w gynnig fel dewis amgen i feddyginiaeth draddodiadol e.e. grwpiau pensynnu / cerdded – ac i’r opsiynau hyn fod ar gael yn rhwydd
  • Gwell isadeiledd trafnidiaeth sy’n gwneud teithio ar draws y rhanbarth yn fwy hygyrch a diogel i blant a phobl ifanc ei ddefnyddio
  • Archwilio defnyddio’r celfyddydau a buddion hynny y fel ffynhonnell cefnogaeth a mynegiant i blant a phobl ifanc
  • Gwell cymorth ariannol i deuluoedd a phobl ifanc i sicrhau bod yr holl anghenion sylfaenol yn cael eu diwallu’n ddigonol, er mwyn lleihau’r effeithiau andwyol y gallent eu profi o ganlyniad i dlodi, yn enwedig mewn perthynas â chynhwysiant digidol
  • Cymorth cenedlaethol a rhanbarthol sy’n cael ei lywio gan flaenoriaethau lleol, a ddatblygir drwy amrywiaeth o gyfleoedd ymgysylltu arloesol a deinamig gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol
  • Mwy o addysg ac ymwybyddiaeth i weithwyr proffesiynol ynghylch blaenoriaethau a chymorth iechyd meddwl plant a phobl ifanc

"I Do It For Love"

Ysgrifennwyd y gân hon gan Maddie Jones a gofalwyr ifanc. Gyda’i gilydd buon nhw’n edrych ar greu mannau hwyl hygyrch i bobl ifanc.

Darllen geiriau

Eisiau cymryd rhan i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc?

Lleisiau plant a phobl ifanc

Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Rydyn ni wedi amlygu blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cymunedau yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth. Yma rydyn ni’n esbonio sut y bui ni weithio gyda chymunedau i nodi'r rhain.

100 Diwrnod Gweledol Prif Dudalen

Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae ein Cynllun Ardal Rhanbarthol yn amlinellu’r camau a gymerir i wella gwasanaethau a chymorth.

Darllen mwy

Cyfranwyr, Rhwystrau ac Atebion i Gydgynhyrchu

Mae’r adroddiad Mae Ein Llais yn Cyfri yn dangos y cyfranwyr, y rhwystrau a’r atebion i gydgynhyrchu.

Darllen mwy

Cydgynhyrchu mewn argyfwng

Cyd-gynhyrchu Mewn Argyfwng: Gwerthfawrogi Lleisiau Cwm Taf Morgannwg drwy Bandemig Covid-19'. Mae’r adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect Mae Ein Llais yn Cyfri, yn rhannu enghreifftiau o arfer da ac argymhellion ar gyfer gwreiddio cydgynhyrch

Lawrlwythwch yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.