Dewch o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Cyflwyniad

Mae angen i ni sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn byw bywydau diogel, iach a chyflawn, a'u bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, bod rhywun yn gwrando arnynt, yn gweithredu arnynt ac yn ymateb iddynt p'un a wneir newidiadau ai peidio.

Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu cymunedau cryf a gwydn fel y gall Cwm Taf Morgannwg fod yn lle gwych i dyfu i fyny, mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn wynebu heriau.

Beth ydyn ni'n ei olygu wrth blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth?

Efallai y byddwch chi’n clywed pobl yn cyfeirio at ‘blant neu bobl ifanc ag anghenion cymhleth’. Diffiniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o’r grŵp hwn yw plant a phobl ifanc rhwng a 25 oed ac sydd â hawl i dderbyn gwasanaethau o hyd.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Plant ag anableddau a / neu salwch
  • Plant sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal
  • Plant sydd angen gofal a chymorth
  • Plant sydd mewn perygl o orfod derbyn gofal
  • Plant ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol

Rydyn ni wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u gofalwyr i nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella gwasanaethau a chymorth yng Nghwm Taf Morgannwg.

Dysgwch am ein blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer plant a phobl ifanc yma.

Mae plant a phobl ifanc wedi creu darnau i gynrychioli eu profiadau.

Darllenwch sut rydyn ni wedi clywed lleisiau plant a phobl ifanc yma.

Ydych chi'n berson ifanc, neu ydych chi'n gweithio gyda phlant
a phobl ifanc? Cofrestrwch i gymryd rhan yn ein gwaith yma.

Hanesion am sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi.

Diwrnod creadigrwydd iechyd meddwl a lles yng Nghymdeithas Gymunedol Gilfach Goch

Cafodd plant a phobl ifanc eu gwahodd i gymryd rhan mewn diwrnod creadigol yng Nghymdeithas Gymunedol Gilfach Goch. Aethon nhw ati i greu ffilmiau, ysgrifennu caneuon a chreu dyluniadau i ddangos beth

Darllenwch ragor

Rhoi cyfle i bobl ifanc gael ychydig o hwyl yn ystod pandemig.

Yr haf diwethaf, helpodd miloedd o sesiynau chwarae â chymorth i gefnogi pobl ifanc a phlant sy'n agored i niwed i ddatblygu eu sgiliau emosiynol a chorfforol.

Darllenwch ragor

Cefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o les emosiynol gwael.

Ariannu Campfa Werdd wedi gwneud gweithgareddau awyr agored yn bosibl i bobl gyda lles emosiynol gwael neu bobl mewn perygl o ddioddef o hynny.

Darllenwch ragor

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.