Mae sefydliadau ledled Cwm Taf Morgannwg yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth.
Ein nod yw gwella gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles yn CTM. Yma, gallwch chi weld sut mae ein gwaith yn helpu pobl sy'n byw yn y rhanbarth.
Ein hanesion
Darllenwch isod am brosiectau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n helpu ac yn cysylltu cymunedau.
‘Keeping Connected in your Community’
Mae Pat yn 75 oed ac yn byw yn RhCT. Mae Pat yn mwynhau trefnu a mynd i foreau coffi a chwarae ychydig o bingo lle mae’n gallu cael sgwrs a mwynhau gyda ffrindiau newydd.
Mae ariannu campfa werdd wedi ei gwneud hi’n bosib cynnal gweithgareddau yn yr awyr agored i bobl gyda lles emosiynol gwael neu bobl sydd mewn perygl o ddioddef o hynny.
Cymorth a chyngor hanfodol yn ystod cyfnod clo COVID-19
Dyma sut mae Gail, un o Lywyddion Cymunedol BAVO, a thîm Pwynt Mynediad Cyffredinol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cydweithio i helpu preswylydd sy'n byw gyda chyflwr poenus.
Rydyn ni’n goruchwylio’r gwaith o gyllido a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Darllenwch fwy isod:
Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (RIF) yn gronfa newydd dros bum mlynedd a fydd yn helpu i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydyn ni eisiau sicrhau eich bod chi’n derbyn gwybodaeth gyfredol am bynciau sydd o ddiddordeb i chi. Cliciwch ar y ddolen i ddysgu sut allwch chi gadw mewn cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, unrhyw awgrymiadau neu os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw beth, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ymateb cyn gynted â phosib.