Stori Alex a Steve

Yn y podlediad hwn cawn glywed syniadau am newidiadau cadarnhaol i wella bywydau pobl sydd ag anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau.

GWYBODAETH, CYNGOR AC ARWEINIAD

I bobl gael mynediad i’r wybodaeth a’r arweiniad cywir

Rydyn ni eisiau i bobl gael mynediad at y wybodaeth, y cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt.

I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:

  • Gwella mynediad at wybodaeth
  • Datblygu mannau diogel er mwyn i bobl allu mynychu gwasanaethau a gweithgareddau yn eu cymunedau
  • Creu dull gweithredu rhanbarthol sy’n canolbwyntio ar gymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Sicrhau bod cymorth teg ar gael ar draws ein rhanbarth
  • Sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch ac yn hawdd i bobl ei deall, a bod pobl yn fwy ymwybodol o’r wybodaeth sydd ar gael iddynt
Darllen mwy

CYMUNED

Creu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned

Rydyn ni eisiau gwella hygyrchedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned drwy wella mynediad at wasanaethau arbenigol yn agos at gartref. Byddwn ni hefyd yn gweithio i ddatblygu cymunedau cynhwysol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu gymryd rhan yn ddiogel mewn gweithgareddau.

I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:

  • Gwella cysylltedd cymdeithasol ac annog perthnasoedd cadarnhaol rhwng cenedlaethau.
  • Sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a bod rhywun yn gwrando arnynt wrth gael mynediad at wasanaethau, cymorth a gweithgareddau.
  • Creu gweithgareddau cymunedol mwy hygyrch i bobl hŷn, a’r rhai sydd â nam ar y synhwyrau, anableddau corfforol neu broblemau symudedd.
  • Sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chyngor am wasanaethau a chyfleoedd.
Darllen mwy

IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig

Rydyn ni eisiau creu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a fydd yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu drwy gyfnodau pontio allweddol yn eu bywydau.

I wneud hyn, mae angen i ni sicrhau bod digon o amser ac ystyriaeth ar gael i ddarparu gwasanaethau. Rhaid i ni hefyd wneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl archwilio’r holl opsiynau posibl sydd ar gael iddyn nhw.

Darllen mwy

HYGYRCHEDD MEWN GOFAL DEMENTIA

Creu gwasanaethau a chymorth dementia hygyrch

Rydyn ni’n gwybod y byddai pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn hoffi cael cymorth a gwybodaeth wedi’i deilwra i ddiwallu eu hanghenion.

Mae hygyrchedd yn thema allweddol yn Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan, yr ydyn ni’n gweithio tuag at ei chyrraedd yng Nghwm Taf Morgannwg.

Rydyn ni eisiau addasu dulliau cyfathrebu, gwasanaethau a chefnogaeth fel bod pobl yn gallu cael mynediad at wybodaeth, cyngor a gofal mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Darllen mwy

Beth rydyn ni wedi’i gyflawni

Photo

40+

Mae dros 50 o bobl ag anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau, a gweithwyr proffesiynol wedi bod yn rhan o'r gwaith o greu'r blaenoriaethau hyn.

Photo

1

Bydd ein Bwrdd Gwasanaethau Oedolion yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

Photo

5+

Cafodd dros 5 darn creadigol eu creu i rannu sut mae pobl yn teimlo am y themâu hyn.

Dysgu mwy am ein gwaith i wella gwasanaethau a chefnogaeth i bobl ag anableddau corfforol a namau synhwyraidd yma.

Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi? Cysylltwch!

Drwy gydol y pum mlynedd byddwn yn rhannu diweddariadau ar gynnydd, ac yn gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiadau byw, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i fod yn rhan o’n gwaith. Gallwch gofrestru ar gyfer ein tudalen gyswllt, a hefyd gofrestru i fynychu ein digwyddiadau.

Mae’r Cynllun Ardal Rhanbarthol llawn ar gael yn y ddolen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk.

Lawrlwythwch y Cynllun Ardal Rhanbarthol

Oes gyda chi anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau?
Rhannwch eich barn ar y blaenoriaethau hyn.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.