1. Pobl sy'n byw'n annibynnol mewn llety ond sydd angen cymorth a gofal ar y safle.

Weithiau mae angen cymorth ychwanegol ar bobl sy'n byw ar eu pen eu hunain er mwyn iddyn nhw allu parhau i fyw'n annibynnol.

Mae’r rhaglen tai â gofal yn cefnogi partneriaid i ddatblygu llety addas ar gyfer pobl hŷn ag anghenion gofal, oedolion ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl, a phobl ifanc sy’n gadael gofal.

2. Pobl sydd angen gofal a chymorth mwy dwys ble maen nhw’n byw.

Gall y rhaglen tai â gofal gefnogi datblygu llety ar gyfer grwpiau mwy bregus o bobl sydd angen gofal ble maen nhw’n byw.

Mae hyn yn cynnwys llety preswyl newydd ar raddfa fach i blant a phobl ifanc; llety tymor byr / canolig ar gyfer oedolion ag anghenion uwch neu heriau ymddygiadol, a lleoliadau gofal canolraddol i ofalwyr, pobl sy'n derbyn gofal a phlant sy'n derbyn gofal. Gall hefyd ariannu gofal seibiant ac adsefydlu.

3. Pobl sydd angen gwneud mân addasiadau i gartrefi a chymhorthion i gadw eu hannibyniaeth.

Mae’r rhaglen tai â gofal yn cefnogi grwpiau bregus pan fydd angen gwneud mân addasiadau i’w cartrefi neu gymorth ac offer sy’n hybu annibyniaeth.

Mae hyn yn cynnwys atgyweirio, adnewyddu cartrefi presennol a lleoliadau gofal eraill. Gall hefyd gynnwys rhoi cyflenwad o offer a chymhorthion, gwneud addasiadau i lety presennol a phrosiectau bach eraill gan gynnwys cymhorthion digidol a thechnolegau cynorthwyol.

Pwy sy'n eistedd ar y Bwrdd Cyfalaf?

Mae’r Bwrdd Cyfalaf yn cynnwys pobl o feysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, addysg a’r trydydd sector. Maen nhw’n gyfrifol am gydweithio i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r strategaeth gyfalaf ranbarthol, i sicrhau bod y cyfleusterau cywir yn eu lle ar gyfer pobl sy’n byw yn y rhanbarth.

Cwrt yr Orsaf.

Comisiynwyd £2m o gyllid i adeiladu cyfleuster gofal ychwanegol 60 gwely.

Fe wnaethon ni gefnogi Linc Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i greu cyfleuster newydd ym Mhontypridd i helpu trigolion i fyw mor annibynnol â phosibl, gyda chymorth 24/7 ar y safle.

Hyb Cymunedol Cwmpawd a Apartments Pen y Dre.

Comisiynwyd £1,129,124 o Brif Raglen Gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig, a £129,115 o'r Gronfa Tai â Gofal.

Fe wnaethon ni gefnogi Cartrefi Cymoedd Merthyr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i greu cyfleuster hyfforddi a llety ble gall pobl ifanc fyw mewn cartref diogel a chynnes, tra’n gwella eu sgiliau ar gyfer y dyfodol. Darllenwch fwy Darllenwch fwy yma.

Uned Gofal Dementia Tŷ Enfys.

Comisiynwyd £1.6M o Brif Raglen Gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig i drawsnewid y gwasanaeth dydd dementia.

Fe wnaethon ni gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i drawsnewid gwasanaeth dydd i bobl sy’n byw gyda dementia. Darllenwch fwy yma.

Cwrt Pen Llew

Comisiynwyd £1,037,943 o Gronfa Gofal Integredig i greu cynllun byw â chymorth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Fe wnaethon ni gefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Thai Cynon Taf i greu cartrefi ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae gan y fflatiau eu hrdal fyw, ystafell ymolchi a chegin eu hunain, gyda mynediad i ardal gymunedol a chefnogaeth gan staff.

Dysgwch fwy am y Rhaglen Gyfalaf

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni.

Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiadau byw, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i fod yn rhan o’n gwaith. Gallwch gofrestru ar gyfer ein tudalen gyswllt, a hefyd gofrestru i fynychu ein digwyddiadau.

Mae angen i geisiadau am arian cyfalaf gael eu cymeradwyo a’u cefnogi gan Bartneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cychwynnol ynghylch cynlluniau llety cymwys posibl, gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, cynghorau sir neu’r trydydd sector, holwch drwy’r Uned Gomisiynu Ranbarthol drwy anfon e-bost at naill ai Nia.mcintosh@rctcbc.gov.uk neu Sarah.mills@rctcbc.gov.uk

Mae’r Cynllun Ardal Rhanbarthol yn nodi’r anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer ein cymunedau, ein poblogaeth a’n pobl. Mae’r buddsoddiad cyfalaf a llety yn alluogwr sy’n rhoi cyfle i ni ddatblygu llety addas gyda gofal ar gyfer y grwpiau bregus hynny o bobl yn ein cymunedau. Cefnogir yr anghenion llety a amlygwyd yn y cynllun ardal gan Strategaeth Gyfalaf ddeng mlynedd sy’n diffinio’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygu llety dros y ddeng mlynedd nesaf.

Mae nifer o asiantaethau partner wedi dod ynghyd i greu Bwrdd Cyfalaf rhanbarthol, sy’n gweithredu o dan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’r bwrdd hwn yn cynnwys uwch swyddogion o Gynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr sy’n arbenigo mewn gofal cymdeithasol a thai, ynghyd â phartneriaid o blith landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r bwrdd yn adolygu pob cais am gynlluniau llety newydd ac yn argymell y rhai ar gyfer derbyn buddsoddiad, sy’n ateb amcanion anghenion y cymunedau.

Ydych chi eisiau derbyn diweddariadau gan Fwrdd y Rhaglen Gyfalaf?

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.