Dewch o hyd i beth rydych chi'n chwilio amdano

Meddai Chloe, Cadeirydd y Grŵp Anableddau Dysgu Rhanbarthol:

“Dwi’n teimlo mor angerddol dros wneud gwahaniaeth i bobl ag anableddau dysgu. Mae angen i ni gael ein clywed, a chael y cyfle i fyw bywydau normal.

“Mae gweithio yn fy swydd wedi cynnau tân yn fy mol. Rwy’n gobeithio gwneud y gwahaniaeth fel bod gyda ni yr un hawliau a bywyd ag unrhyw berson arall.”

TRAFNIDIAETH

Gwell opsiynau trafnidiaeth i bobl ag anableddau dysgu

Isadeiledd trafnidiaeth addas a phriodol a fydd yn galluogi mynediad i ystod o wasanaethau, gan gynnwys cyfleoedd cymdeithasol a chyflogaeth.

Darllen mwy

TAI

Llety fforddiadwy sy’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu i fyw’n annibynnol

Rydyn ni eisiau cael mwy o ddealltwriaeth a gwella opsiynau tai ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Bydd hyn yn gwella profiadau pobl ac eu paratoi’n well wrth drosglwyddo i fyw’n annibynnol.

Darllen mwy

SEIBIANT

Cynnig seibiant modern a hygyrch

Rydyn ni eisiau deall yr heriau a ddaw yn sgil gofal seibiant yn well er mwyn gwella gwasanaethau ar draws y rhanbarth.

Mae hyn yn cynnwys creu system archebu well y gall pobl ag anableddau dysgu, eu rhieni a’u gofalwyr gael mynediad hawdd ati a’i defnyddio, a gwella cymorth gofal seibiant brys.

 

Darllen mwy

IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig

Rydym am greu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a fydd yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu drwy gyfnodau pontio allweddol yn eu bywydau. I wneud hyn, mae angen inni sicrhau bod digon o amser a meddwl ar gael i ddarparu gwasanaethau. Rhaid inni hefyd wneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl archwilio’r holl opsiynau posibl sydd ar gael iddynt.

Darllen mwy

SWYDDI A GWIRFODDOLI

Creu cyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli i bobl ag anableddau dysgu

Rydym eisiau gweithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i gyrraedd eu llawn botensial o ran cyflogaeth a gwirfoddoli. Mae hyn yn cynnwys gwella sgiliau, creu cyfleoedd, a gwella hygyrchedd.

Darllen mwy

CYMUNED

Creu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned

Rydyn ni eisiau gwella hygyrchedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned trwy wella mynediad at wasanaethau arbenigol yn agos i’r cartref. Byddwn ni hefyd yn gweithio tuag at ddatblygu cymunedau cynhwysol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu gymryd rhan yn ddiogel mewn gweithgareddau.

Darllen mwy

Blaenoriaethau mewn rhifau

Photo

3

Bydd tri grŵp gweithio’n symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Photo

6+

Darnau creadigol sy’n adlewyrchu llais pobl ag anableddau a ddylanwadodd ar y blaenoriaethau hyn.

Photo

100+

Gweithiodd dros gant o bobl ag anableddau dysgu a gweithwyr proffesiynol gyda’i gilydd i roi ffurf ar y blaenoriaethau hyn.

Oes gennych chi anabledd dysgu neu'n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu? Rhannwch eich barn ar y blaenoriaethau hyn.

Dysgwch fwy am ein gwaith i wella gwasanaethau a chymorth i bobl ag anableddau dysgu yma.

Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi? Cysylltwch!

Drwy gydol y pum mlynedd byddwn yn rhannu diweddariadau ar gynnydd, ac yn gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau.

Mae dros gant o bobl ag anableddau dysgu wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r blaenoriaethau hyn.

Cawsant eu cymeradwyo gan y Grŵp Anableddau Dysgu Rhanbarthol, sy’n cynnwys aelodau ag anableddau dysgu, a chaiff ei gyd-gadeirio gan berson ag anabledd dysgu.

Bydd y blaenoriaethau’n cael eu hadolygu’n flynyddol, a bydd gwaith parhaus yn cael ei roi ar waith gan bobl ag anableddau dysgu a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n gydgynhyrchiol.

Bydd ein Grŵp Anableddau Dysgu Rhanbarthol nawr yn gweithio gyda’i gilydd i nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i fwrw ymlaen â’r blaenoriaethau hyn. Bydd tri gweithgor yn cefnogi’r gweithgaredd hwn, a gallwch ddarllen eu diweddariadau diweddaraf yma.

Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiadau byw, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i fod yn rhan o’n gwaith. Gallwch gofrestru ar gyfer ein tudalen gyswllt, a hefyd gofrestru i fynychu ein digwyddiadau.

Mae’r Cynllun Ardal Rhanbarthol llawn ar gael yn y ddolen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk.

Lawrlwythwch y Cynllun Ardal Rhanbarthol

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.