Yma gallwch weld beth sy’n bwysig i bobl ag anableddau dysgu yn ein rhanbarth, a sut rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i sicrhau y gallan nhw fyw bywydau iach ac annibynnol.

Ynglŷn ag anableddau dysgu

Defnyddir y term ‘anabledd dysgu’ i ddisgrifio nifer o gyflyrau gwahanol. Fe all pobl â’r un anabledd dysgu brofi’r cyflwr hwnnw mewn ffordd wahanol i’w gilydd.

Mae’n bwysig fod pobl ag anableddau dysgu’n teimlo fod rhywun wir yn gwrando ac yn cymryd diddordeb, a bod ganddyn nhw reolaeth a dewis dros eu bywydau’u hunain.

Yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu 2023 rydyn ni’n mynd i ddangos rhai o’r pethau gwych mae pobl ag anabledd dysgu’n ei wneud yn ein rhanbarth, gan dynnu sylw ar yr un pryd i rai o’r rhwystrau a’r heriau allweddol sy’n eu hwynebu o hyd

 

 

Dyma Chloe Cannon

Chloe yw Cadeirydd ein Grŵp Anableddau Dysgu Rhanbarthol, gan gynghori ar flaenoriaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant i bobl ag anableddau dysgu ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

Mae Chloe’n frwd o blaid hawliau pobl ag anableddau dysgu, ar ôl gwirfoddoli gyda’r elusennau Follow Your Dreams a Phobl yn Gyntaf Cwm Taf am lawer o flynyddoedd.

Fel Cadeirydd, mae Chloe, sydd ag anableddau dysgu, yn sicrhau bod llais pobl ag anableddau dysgu wrth wraidd penderfyniadau am gyllid ac adnoddau ar gyfer gwasanaethau.

Email Us

Hearing the voices and experiences of people with a learning disability.

Clywed lleisiau a phrofiadau pobl ag anabledd dysgu

Clywed lleisiau a phrofiadau pobl ag anabledd dysgu

Sut allwn ni gyfathrebu’n effeithiol â phobl sy’n byw gydag anabledd dysgu?

Rydyn ni’n gwybod fod cyfathrebu’n gallu bod yn rhwystr i bobl ag anabledd dysgu.

I glywed mwy am hyn, fe ofynnon ni i Bobl yn Gyntaf Cwm Taf a phrosiect Mae Ein Llais yn Cyfri ymchwilio i ddewisiadau cyfathrebu pobl ag anabledd dysgu ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Comisiynwyd Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr i wneud gwaith tebyg gyda phobl ag anabledd dysgu ar draws Pen-y-bont hefyd.

Fel rhan o ymchwil Cwm Taf, cyflogwyd unigolyn ag anabledd dysgu fel hwylusydd prosiect i helpu i lywio’r prosiect ac ymgysylltu â chyfoedion.

Cymerodd 28 o bobl ag anabledd dysgu ran yn yr ymchwil.

Wrth gyd-gynllunio adroddiad yr ymchwil, roedd y bobl ag anabledd dysgu’n teimlo nad oedd modd dal yn llawn yr hyn roedden nhw wedi’i ddysgu am gyfathrebu mewn adroddiad ysgrifenedig, a gofynnon nhw am i ffilm gael ei chreu i helpu pobl eraill i ddeall eu canfyddiadau a’u hargymhellion:

Hoffai pobl ag anableddau dysgu yn CTM weld mwy o gyfleoedd i gael mynediad i waith a lleoliadau gwirfoddoli

Rydyn ni wedi tynnu ynghyd gasgliad o straeon a phrosiectau i ysbrydoli sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu.

VIVA Ffest

Roedd VIVA Ffest (Gweledigaeth, Cynhwysiad, Llais, Eiriol – Vision, Inclusion, Voice, Advocacy) yn ŵyl a grëwyd gan bobl ag anableddau dysgu ac ar eu cyfer. Roedd y dydd wedi galluogi pobl i gael

Gwylio’r ffilm

Prosiect SEARCH

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi gweithio law yn llawn â 36 o bobl ifanc ag anabledd dysgu a / neu awtistiaeth, gan gefnogi 8 i fynd i gyflogaeth gyda CTM.

Cysylltwch â Tîm Profiad Gwaith CTM

Stori Lynne

Yn y stori hon rydyn ni’n cwrdd â Lynne, oedd yn un o’r bobl gyntaf i sefydlu Pobl yn Gyntaf, grŵp eiriol i bobl ag anableddau dysgu yn ne Cymru.

Darllen mwy

Sefydliadau sy’n cefnogi pob ag anableddau dysgu yng Nghwm Taf Morgannwg

Pobl yn Gyntaf Cwm Taf

Elusen yw Pobl yn Gyntaf Cwm Taf a gynhelir gan bobl ag anableddau dysgu ar gyfer pobl ag anableddau dysgu sy’n byw yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Blaenau Gwent.

Darllen mwy

Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr yn eiriol ar ran hawliau pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn ardal Pen-y-bont.

Darllen mwy

Drive

Mae Drive yn darparu cymorth sy’n grymuso dewis, perthyn a byw’n annibynnol mewn cymunedau lleol.

Darllen mwy

Cefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i bobl ag anableddau dysgu

Os ydych chi’n byw yn RCT, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yma.

Darllen mwy

Cefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i bobl ag anableddau dysgu

Os ydych chi’n byw ym Mhen-y-bont, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yma.

Darllen mwy

Cefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i bobl ag anableddau dysgu

Os ydych chi’n byw ym Merthyr Tudful gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yma.

Darllen mwy

Mencap

Mae Mencap Cymru’n darparu tai â chymorth, cefnogaeth yn y cartref, gofal yn y cartref, gwasanaethau seibiant a gwasanaethau gofal preswyl i oedolion a phobl ifanc ag anableddau dysgu.

Darllen mwy

Methu gweld y peth rydych chi’n chwilio amdano?

Mae gan Dewis Cymru ystod eang o wybodaeth.

Darllen mwy

Gwella gwasanaethau a chefnogaeth dementia – 6 Gorffennaf, 09:30-14:30

Mae pobl ag anableddau dysgu, yn enwedig pobl â syndrom Down, mewn mwy o berygl o ddatblygu dementia. Ymunwch â ni i drafod sut y dylai cefnogaeth a gwasanaethau dementia edrych ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Cofrestru yma

A yw ein cymunedau yn gwybod digon am ddementia? Sut gallwn ni wella profiad diagnosis rhywun?

Dweud eich dweud ar wella gwasanaethau a chymorth dementia

Cymerwch ein harolwg yma..

Cliciwch yma

Dweud eich dweud ar wella gwasanaethau a chymorth dementia - Hawdd ei Ddarllen

Cymerwch ein harolwg yma.

Cliciwch yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.