Dewch o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano

Cefndir

Mae pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr eisiau llais, dewis a rheolaeth dros benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu i ddeall yr heriau a’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu, a hefyd pa gamau sydd eu hangen i wella gwasanaethau a chymorth.

Gellir gweld y blaenoriaethau a amlygwyd yn y llun ar y dde.

Adeiladu ar yr hyn y mae pobl ag anableddau dysgu wedi'i ddweud wrthym yn barod

Mae pobl ag anableddau dysgu eisoes wedi dweud wrthym sut yr hoffen nhw weld gwasanaethau’n gwella. Ymhlith yr awgrymiadau mae cael gwybodaeth hawdd ei darllen a hygyrch sydd ar gael iddynt mewn modd amserol; cael eu cynnwys mewn penderfyniadau er mwyn iddynt allu rhannu eu llais a'u barn; dewis o ran cyfleoedd yn ystod y dydd, gyda ffocws arbennig ar gyflogaeth, gwirfoddoli ac addysg, a gweithgareddau cymdeithasol. Bydden nhw hefyd yn hoffi gweld adolygu amserlenni trafnidiaeth, a chyfleoedd i wneud ffrindiau a bod yn rhan o'r gymuned.

Edrych yn ôl i symud ymlaen

Wrth lunio ein blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, fe edrychon ni ar yr holl wybodaeth a phrofiadau a rannwyd gyda ni er mwyn nodi themâu allweddol i ganolbwyntio arnynt. Fel hyn gallwn edrych ar ba gamau cadarnhaol sydd angen eu cymryd i wella gwasanaethau a chymorth.

Canfyddiadau allweddol o'r hac-a-thon

Rhaid i bobl â phrofiadau byw a gweithwyr proffesiynol gydweithio i ysgogi newid ystyrlon.

Yn ystod ein hac-a-thon ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, rhannwyd pawb yn chwe grŵp i edrych ar:

  • Swyddi a gwirfoddoli
  • Iechyd meddwl
  • Lleoedd Cymunedol
  • Gofal seibiant
  • Byw’n Annibynnol
  • Mynediad i hwyl

Roedd y grwpiau’n cynnwys amrywiaeth o bobl ag awtistiaeth ac anableddau dysgu, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol.

Isod rydyn ni wedi rhannu rhai o’r canfyddiadau allweddol o’r hacathon.

 

See Me

Ysgrifennodd pobl ag anableddau dysgu y gân hon gydag ymarferwr creadigol i rannu eu profiadau o chwilio am waith a gwirfoddoli.

Darllen y geiriau

Sut y gellir gwella gwasanaethau?

Hoffai pobl ag anableddau dysgu weld:

  • Mwy o gyllid i gyflogwyr a / neu ddarparwyr cyflogaeth â chymorth i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu’n gallu cyflawni’u potensial cyflogaeth llawn.
  • Cynyddu cyfleoedd ar gyfer teithio, hyfforddiant a / neu deithio â chymorth i alluogi pobl ag anableddau dysgu i gael mynediad i weithgareddau, apwyntiadau, gwaith a lleoliadau gwirfoddoli
  • Cynyddu digwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol lleol i bobl ag anableddau dysgu gael mynediad iddynt, cael hwyl, cyfarfod a gwneud ffrindiau
  • Adolygu opsiynau tai ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth gyda’r bwriad o ddatblygu eiddo newydd mewn ardaloedd o isadeiledd da a gwella isadeiledd o amgylch y rhanbarth

Home is Where The Heart Is

Ysgrifennodd pobl ag anableddau dysgu y gân hon am bwysigrwydd cael cartref cynnes, diogel lle gallant deimlo’n annibynnol.

Darllen y geiriau

Eisiau cymryd rhan mewn gwella gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu?

Efallai y bydd yr adroddiadau isod o ddefnydd chi.

Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Rydyn ni wedi amlygu blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cymunedau yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth. Yma rydyn ni’n esbonio sut y bui ni weithio gyda chymunedau i nodi'r rhain.

100 Diwrnod Gweledol Prif Dudalen

Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae ein Cynllun Ardal Rhanbarthol yn amlinellu’r camau a gymerir i wella gwasanaethau a chymorth.

Darllen mwy

Cyfranwyr, Rhwystrau ac Atebion i Gydgynhyrchu

Mae’r adroddiad Mae Ein Llais yn Cyfri yn dangos y cyfranwyr, y rhwystrau a’r atebion i gydgynhyrchu.

Darllen mwy

Cydgynhyrchu mewn argyfwng

Cyd-gynhyrchu Mewn Argyfwng: Gwerthfawrogi Lleisiau Cwm Taf Morgannwg drwy Bandemig Covid-19'. Mae’r adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect Mae Ein Llais yn Cyfri, yn rhannu enghreifftiau o arfer da ac argymhellion ar gyfer gwreiddio cydgynhyrch

Lawrlwythwch yma

Hoffterau cyfathrebu pobl ag anableddau dysgu

Mae'r adroddiad hwn yn amlygu hoffterau cyfathrebu pobl ag anableddau dysgu.

Lawrlwythwch yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.