Rydym wedi lansio ymgyrch newydd i godi safonau a gwella gofal dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Rydyn ni eisiau gwneud gofal a chymorth dementia yn well i chi.

Mae set o safonau wedi’u creu i wella gwahanol rannau o’ch gofal.

Gelwir y rhain yn ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru ’.

Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch ac ymatebol i chi, sut rydym yn gwneud eich taith mor gadarnhaol â phosibl a sut mae’r bobl sy’n eich cefnogi wedi’u hyfforddi ac yn fedrus.

Rydym am eich cynnwys chi i sicrhau bod y safonau’n cael eu bodloni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

Gall eich profiadau ein helpu i ddeall pa newidiadau sydd angen eu gwneud i sicrhau bod pobl yn cael y gofal a’r cymorth gorau posibl.

Mae yna 20 safon, ac mae naw o’r rhain yn cysylltu â gwasanaethau asesu cof. Mae angen inni edrych ar sut y gallwn wella gwasanaethau asesu cof ar gyfer pobl sy’n ceisio diagnosis.

Hoffem glywed eich stori a'ch syniadau er mwyn i ni wneud pethau'n well yn y dyfodol.

Ymunwch â ni i lywio’r ffordd y mae gofal a chefnogaeth yn edrych i bobl sydd â dementia, gofalwyr a’u teuluoedd.

Pan rydym i gyd yn dod at ein gilydd, rydym yn gwneud pethau yn well i bawb.

Cofrestrwch yma

Mae profiad pawb o ddiagnosis yn wahanol, ond rydym am ddeall sut y gallwn wneud y daith hon yn well i'r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae teimlo bod rhywun yn gwrando arnoch, yn eich clywed a’ch gwerthfawrogi yn hanfodol.

Cofrestrwch isod i gymryd rhan mewn digwyddiadau i helpu i lywio dyfodol gofal a chymorth dementia.

6 Gorffennaf - hasathon gwella gwasanaethau a chefnogiaeth dementia hack-a-thon

Bydd y digwyddiad yn dod â phobl yr effeithir arnynt gan ddementia a gweithwyr proffesiynol ynghyd i edrych ar y rhwystrau a'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Gyda'n gilydd gallwn gynnig atebion i wella gwasanaethau.

Cofrestrwch yma

Lawrlwytho taflen ymgyrch

Eisiau rhannu gwybodaeth am yr ymgyrch? Gallwch lawrlwytho ein taflen ddigidol yma.

Lawrlwythwch yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.