Dewch o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Person hŷn:

“Mae’n amser i fi eto, dwi’n sylweddoli bod gen i lawer i’w roi o hyd.”

AROS YN IACH GARTREF

I bobl hŷn aros yn iach gartref cyhyd â phosibl

Rydyn ni eisiau i bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i aros yn eu cartref cyhyd â phosibl, neu i ddychwelyd adref yn gyflym ar ôl cael eu derbyn i’r ysbyty.

I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:

  • Gwella parhad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir i bobl hŷn
  • Gwella dewis ac ymdeimlad o reolaeth o ran sut, ble a phryd y byddan nhw’n cael cymorth gan wasanaethau
  • Gwella mynediad at wybodaeth berthnasol fel bod pobl hŷn yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael cyn i anghenion waethygu
Darllen mwy

GWASANAETHAU CYMUNEDOL

Er mwyn i wasanaethau fod yn hygyrch i bobl hŷn yn eu cymunedau

Rydyn ni eisiau i bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia gymryd rhan mewn gwasanaethau yn eu cymunedau, cyfrannu atynt a chael mynediad iddynt.

I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:

  • Gwella hygyrchedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o fewn cymunedau ar draws ein rhanbarth
  • Datblygu cymunedau cynhwysol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl hŷn gymryd rhan mewn gweithgareddau
  • Gwella rhannu gwybodaeth a chynyddu nifer y cyfleoedd cymdeithasol sydd ar gael i bobl hŷn
Darllen mwy

GWYBODAETH, CYNGOR AC ARWEINIAD

I bobl hŷn gael mynediad i’r wybodaeth a’r arweiniad cywir

Rydyn ni eisiau i bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia gael mynediad at y wybodaeth, y cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt.

I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:

  • Gwella ymwybyddiaeth o gamau cynnar dementia, a sut i gael diagnosis a chymorth
  • Gwella mynediad at wybodaeth fel y gall pobl ddeall yn well sut y gallan nhw gefnogi rhywun â dementia
  • Datblygu lleoedd diogel fel y gall pobl fynychu gwasanaethau a gweithgareddau yn eu cymunedau
  • Creu dull gweithredu rhanbarthol sy’n canolbwyntio ar gymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Sicrhau bod cymorth teg ar gael ar draws ein rhanbarth
Darllen mwy

CYMRYD RHAN YM MYWYD Y GYMUNED

I bobl hŷn gael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol

Rydyn ni eisiau i bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia gael eu cefnogi i ymgysylltu â’u cymuned leol a chael ansawdd bywyd ble caiff unigrwydd ei leihau.

I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:

  • Gwella cysylltedd cymdeithasol ac annog perthynas gadarnhaol rhwng cenedlaethau
  • Sicrhau bod pobl hŷn a gofalwyr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gwrando arnynt wrth gael mynediad at wasanaethau, cymorth a gweithgareddau
  • Creu gweithgareddau cymunedol mwy hygyrch i bobl hŷn, a’r rhai sydd â nam ar y synhwyrau, anableddau corfforol neu broblemau symudedd
  • Sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chyngor am wasanaethau a chyfleoedd
Darllen mwy

BYW YN ANNIBYNNOL

I bobl hŷn fwynhau iechyd a lles da fel y gallant aros yn annibynnol

Rydyn ni eisiau i bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia fwynhau iechyd a llesiant da, a chael eu cefnogi i fyw’n annibynnol yn hirach.

I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:

  • Gwella cyfleoedd ar gyfer gwneud addasiadau / newidiadau i’r cartref a fydd yn galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach
  • Gwella cynhwysiant o fewn cymunedau i helpu pobl i gael synnwyr o bwrpas
  • Cynyddu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol wedi’u teilwra at anghenion pobl hŷn
  • Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a llesiant pobl hŷn
  • Gwella cynhwysiant digidol
Darllen mwy

Creu ein blaenoriaethau ar gyfer pobl hŷn mewn rhifau

Photo

100+

Mae dros 100 o bobl hŷn a gweithwyr proffesiynol wedi bod yn gysylltiedig â chreu’r blaenoriaethau hyn.

Photo

3

Bydd tri gweithgor yn symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Photo

5+

Mae dros bum darn creadigol wedi’u creu i rannu sut mae pobl yn teimlo am y themâu hyn.

Ydych chi dros 65 oed? Ydych chi'n gweithio gyda phobl hŷn? Rhannwch eich barn ar y blaenoriaethau hyn yma.

Dysgwch fwy am ein gwaith i wella gwasanaethau a chymorth i bobl hŷn yma.

Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi? Cysylltwch!

Drwy gydol y pum mlynedd byddwn yn rhannu diweddariadau ar gynnydd, ac yn gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiadau byw, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i fod yn rhan o’n gwaith. Gallwch gofrestru ar gyfer ein tudalen gyswllt, a hefyd gofrestru i fynychu ein digwyddiadau.

Mae’r Cynllun Ardal Rhanbarthol llawn ar gael yn y ddolen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk.

Lawrlwythwch y Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae dros 100 o bobl hŷn a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl hŷn wedi helpu i lunio’r blaenoriaethau hyn. Byddwn ni’n adolygu’r blaenoriaethau hyn yn flynyddol, ac yn parhau i gynnwys pobl hŷn, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol wrth eu gweithredu.

Bydd ein Bwrdd Gwasanaethau Oedolion Rhanbarthol yn adolygu’r camau gweithredu sydd eu hangen nawr er mwyn rhoi’r blaenoriaethau hyn ar waith; gweithio gyda gweithwyr proffesiynol a phobl â phrofiadau byw i wella gwasanaethau a chymorth.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.