Dewch o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Adeiladu ar yr hyn mae pobl hŷn eisoes wedi’i ddweud wrthym

Trwy ymchwil a gweithio gyda sefydliadau sy'n cynrychioli pobl hŷn ar draws y rhanbarth, gallwn adeiladu darlun o sut y gall pobl hŷn fod yn teimlo. Mae ein canfyddiadau’n dangos bod pobl hŷn yn gwerthfawrogi’u hannibyniaeth a’u gallu i fyw yn eu cartrefi’u hunain, yn disgwyl i iechyd a gofal cymdeithasol weithio gyda’i gilydd i gydgysylltu eu gofal, ac angen mynediad at wybodaeth a chyngor, trafnidiaeth, a grwpiau cymunedol o ansawdd da.

Edrych yn ôl i symud ymlaen

Rydyn ni wedi gweithio gyda phobl hŷn a gweithwyr proffesiynol i edrych ar beth sy’n bwysig i bobl hŷn. Drwy gasglu'r wybodaeth hon, rydyn ni wedi nodi themâu blaenoriaeth i osod camau gweithredu yn eu herbyn a fydd yn gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Sut y gwnaethon ni gynnwys pobl hŷn.

Fe wnaethon ni gynnal ddau ddigwyddiad i edrych ar beth sydd ei angen i wella gwasanaethau i bobl sy’n byw gyda dementia a’n poblogaeth hŷn.

Roedd ein dawns de yn Cynon Linc, Aberdâr, yn gyfle gwych i gwrdd â dros chwe deg o bobl dros 50 oed a chael sgyrsiau ystyrlon am iechyd a gofal cymdeithasol.

Dilynwyd hyn gan hac-a-thon, gan edrych ar y blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer pobl hŷn yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth a thrafod pa gamau y gallwn eu cymryd i wella gwasanaethau.

Ymysg y themâu a archwiliwyd roedd:

  • Unigrwydd ac ynysrwydd
  • Byw’n annibynnol
  • Adref o’r ysbyty
  • Gwasanaethau a chymorth cymunedol
  • Gofal dementia da

Sut y gellir gwella gwasanaethau?

I grynhoi, dyma hoffai pobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia ei weld:

  • Mae angen i integreiddio gael ei ddiffinio, ei ddeall a’i roi ar waith yn effeithiol fel bod unigolion yn gallu cael mynediad at ofal a chymorth ar yr amser cywir i sicrhau’r canlyniadau cadarnhaol mwyaf posibl a hyrwyddo darpariaeth.
  • Cefnogaeth wyneb yn wyneb i bobl hŷn oherwydd lefelau eithrio digidol a’r cynnydd mewn unigrwydd ac ynysrwydd a brofwyd trwy gydol pandemig COVID-19
  • Cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch er mwyn gallu cynnwys a hysbysu’r rhai sydd wedi’u heithrio’n ddigidol
  • Cydgynhyrchu ystyrlon gyda phobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia, sy’n gwerthfawrogi eu gwahanol brofiadau, safbwyntiau a barn
  • Bod pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi mewn ffordd gyfannol

Gallwch ddarllen crynodeb manylach o gwmpas pob maes isod.

Unigrwydd ac ynysrwydd

“Pan fyddwch chi’n gaeth i’r tŷ, nid dim ond am oriau neu ddyddiau rydych chi’n sownd mewn un stafell – gallai fod am flynyddoedd.”

Ymysg syniadau ar gyfer newid cadarnhaol mae:

  • Darparu mwy o gymorth i ofalwyr di-dâl, sy’n agored i unigrwydd ac ynysrwydd. Mae hyn yn cynnwys cydnabod a gwerthfawrogi’r aberth a’r cyfraniad y maen nhw’n ei wneud i gefnogi gwasanaethau iechyd a chymdeithasol ar draws y rhanbarth. Gallwch ddarllen mwy am ein hac-a-thon gofalwyr di-dâl yma.
  • “Dyw gwasanaethau ffôn ddim yn gweithio i bawb” ac felly mae’n bwysig bod ystod o atebion wyneb yn wyneb yn y gymuned y gall unigolion gael gafael arnyn nhw’n hawdd i’w helpu i gael cyswllt cymunedol a theimlo’n llai unig ac ynysig.
  • Sicrhau bod lefel barhaus o ofal i feithrin a chynnal perthynas, fel bod defnyddwyr gwasanaethau’n teimlo eu bod nhw’n cael eu clywed, eu deall a’u gwerthfawrogi. Bydd hyn yn lleihau’r posibilrwydd y gallai unigolion gwympo rhwng dwy stôl, a bydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddod i adnabod y person yn well mewn ffordd a fydd yn hwyluso gofal gwell.
  • “Dyw gwasanaethau ffôn ddim yn gweithio i bawb” – dylid darparu amrywiaeth o weithgareddau cymunedol hygyrch – yn enwedig opsiynau rhwng cenedlaethau – fel y gall pobl gael cyswllt cymunedol a theimlo’n llai unig ac ynysig.
  • Adolygu a gwella cymorth mewn argyfwng trwy gyd-werthuso a chyd-ddylunio cyfleoedd gyda phobl sy’n defnyddio gwasanaethau a staff rheng flaen. Bydd hyn yn creu gwell gwasanaethau yn seiliedig ar brofiadau byw ac anghenion a nodwyd.
  • Buddsoddi mewn gwasanaethau cyfeillio i oresgyn unigrwydd ac ynysrwydd, yn enwedig i’r rhai sy’n gaeth i’r tŷ neu dan gyfyngiadau oherwydd cyfrifoldebau gofalu.

Byw’n annibynnol

“Dwi’n byw mewn tai â chymorth ac mae fy rhwydweithiau cymorth yn wych”

Ymysg syniadau ar gyfer newid cadarnhaol roedd:

  • Mwy o wasanaethau cyfeillio all gynnig cymorth wyneb yn wyneb a helpu pobl hŷn i feithrin eu hyder wrth deithio yn eu cymuned gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mynd i weithgareddau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd
  • Cefnogaeth tai i helpu pobl i fyw’n annibynnol yn hirach. Mae hyn yn cynnwys addasu tai i helpu gyda phroblemau symudedd a nam ar y synhwyrau, yn ogystal â gwella diogelwch yn y cartref i helpu pobl hŷn i deimlo’n ddiogel gartref
  • Ystod o opsiynau tai â chymorth ar gyfer pobl hŷn i leihau’r stigma a’r ofn sy’n gysylltiedig â symud i lety byw â chymorth.
  • Darparu opsiynau i bobl hŷn gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, fel apwyntiadau meddyg teulu. Gall eithrio digidol fod yn rhwystr i bobl hŷn, gan olygu nad ydynt yn gallu cael gafael ar wybodaeth berthnasol; anfon ffotograffau o symptomau neu broblemau a mynychu rhith-apwyntiadau.

Adref o'r ysbyty

“Sut alla i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnaf?”

Ymysg syniadau ar gyfer newid cadarnhaol roedd:

  • Cefnogaeth ymyrraeth gynnar a allai atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty. Mae hyn yn cynnwys cymorth iechyd meddwl a llesiant, celcio cymorth a mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysrwydd. Mae cydweithredu â’r trydydd sector yn hanfodol, gan werthfawrogi’r rôl y gallant ei chwarae wrth gefnogi pobl a meithrin perthynas ag unigolion
  • Buddsoddi mewn eiriolwyr cleifion a chyfeillio mewn ysbytai i helpu unigolion i deimlo’n llai unig. Bydd hyn yn helpu i dynnu pwysau oddi ar staff ward prysur, a chreu profiadau gwell i gleifion yn yr ysbyty, a bydd yn helpu i gefnogi’r broses ryddhau.
  • Darparu gwybodaeth hygyrch fel y gall pobl hŷn ddeall pa wasanaethau a chymorth sydd ar gael, ac sydd ar gael iddyn nhw, cyn cyrraedd pwynt argyfwng
  • Sicrhau bod amser yn cael ei dreulio gyda chleifion i ddeall eu hanghenion a’u dymuniadau erbyn eu bod yn cael eu rhyddhau. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynlluniau angenrheidiol yn eu lle, gan gynnwys sicrhau bod y bwyd iawn yn y tŷ, a’r gwely’n barod gyda’r dillad gwely a ffafrir. Mae hyn yn arbennig o bwysig os nad yw rhywun yn dychwelyd i’w cartref, ond yn hytrach yn cael ei roi mewn llety â chymorth / cartref gofal
  • Sicrhau bod gwasanaethau atal yn gallu cael eu teilwra i gefnogi anghenion yr unigolyn i’w gadw’n iach gartref cyhyd ag y bo modd, yn hytrach nag aros nes i’r argyfwng ddigwydd, neu orfod mynd i’r ysbyty.

Adref O'r Ysbyty

Gwrandewch ar y gân hon am brofiadau o fynd adref o’r ysbyty.

Darllen geiriau

Gwasanaethau cymunedol a chefnogaeth

“Fe ddechreuon ni gydag iechyd a gofal cymdeithasol, ac yna’i droi ar ei ben, ac edrych ar wytnwch cymunedol o’n cwmpas.”

Ymysg syniadau ar gyfer newid cadarnhaol roedd:

  • Adfywio a meithrin ymdeimlad o wytnwch cymunedol, balchder a pherthyn. Gellir cyflawni hyn trwy gynnig mwy o gefnogaeth wyneb yn wyneb yn y gymuned mewn hybiau penodedig.
  • Helpu pobl hŷn i deimlo’n ddiogel yn eu cymunedau drwy chwalu rhwystrau rhwng cenedlaethau – gall mwy o weithgareddau rhwng cenedlaethau gefnogi hyn.
  • Mwy o fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol i oresgyn prinder staff a lludded, a fydd yn cefnogi pobl sy’n byw yn ein cymunedau yn well.

Gofal dementia da

“Dyw pawb ddim yn cael profiad da ac mae angen dilysu teimladau pobl.”

Ymysg syniadau ar gyfer newid cadarnhaol roedd:

  • Gwybodaeth hygyrch fel bod pobl yn deall pa gefnogaeth a gweithgareddau sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Mae pobl hefyd eisiau deall eu hawliau ac mae gwasanaethau eiriol yn bwysig i helpu pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr i’w harfer yn effeithiol
  • Amgylcheddau diogel gyda thai hygyrch i adeiladu cymunedau sy’n gofalu ac yn gallu cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia. Mae hyn yn cynnwys gwella ansawdd gwasanaethau cymunedol a chodi ymwybyddiaeth o ddementia yn ein cymunedau.
  • Gofalu am iechyd corfforol a meddyliol gofalwyr fel y gallant barhau i ofalu am eu hanwyliaid. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau seibiant hygyrch a digonol fel bod gan ofalwyr amser i gael “seibiant go iawn” ac amser iddyn nhw eu hunain
  • Defnyddio iaith hygyrch fel bod pobl sy’n byw gyda dementia a gofalwyr yn gallu cymryd rhan mewn sgyrsiau a gweithgareddau
  • Sicrhau ein bod ni’n creu amser digonol i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr fel y gallant brosesu gwybodaeth, a chymryd amser i ofyn cwestiynau. Mae angen gwerthfawrogi hefyd pryd yw’r amser mwyaf priodol o’r dydd ar gyfer apwyntiadau oherwydd gall gymryd mwy o amser i’w paratoi i fynychu.
  • Cydgynhyrchu’n ystyrlon gyda phobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr – mae hyn yn cynnwys rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i sefydliadau a gwasanaethau allu rhannu grym a chyfrifoldeb yn effeithiol
  • Sicrhau parhad gwasanaethau ar draws y rhanbarth. Dylai unigolion fod yn hyderus y byddan nhw’n derbyn gwasanaeth o safon ble bynnag maen nhw’n byw.

Eisiau cymryd rhan mewn gwella gwasanaethau i bobl hŷn?

Efallai y bydd yr adroddiadau isod o ddefnydd chi.

Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Rydyn ni wedi amlygu blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cymunedau yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth. Yma rydyn ni’n esbonio sut y bui ni weithio gyda chymunedau i nodi'r rhain.

Darllen mwy

Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae ein Cynllun Ardal Rhanbarthol yn amlinellu’r camau a gymerir i wella gwasanaethau a chymorth.

Darllen mwy

Cyfranwyr, Rhwystrau ac Atebion i Gydgynhyrchu

Mae’r adroddiad Mae Ein Llais yn Cyfri yn dangos y cyfranwyr, y rhwystrau a’r atebion i gydgynhyrchu.

Lawrlwythwch yma

Cydgynhyrchu mewn argyfwng

Cyd-gynhyrchu Mewn Argyfwng: Gwerthfawrogi Lleisiau Cwm Taf Morgannwg drwy Bandemig Covid-19'. Mae’r adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect Mae Ein Llais yn Cyfri, yn rhannu enghreifftiau o arfer da ac argymhellion ar gyfer gwreiddio cydgynhyrch.

Lawrlwythwch yma

Cyfoethogi bywydau trwy godi safonau a gwella gofal dementia.ds

Rydym wedi lansio ymgyrch newydd i godi safonau a gwella gofal dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.