Gwella gofal a chefnogaeth dementia ledled Cymru

Mae Gwelliant Cymru, ynghyd â phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, wedi creu set o 20 o safonau gorfodol sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau dementia. Gelwir y rhain yn ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan’.

Am y safonau

Fel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, rydyn ni eisiau dod ynghyd gyda phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr a theuluoedd, i sicrhau fod y safonau’n cael eu cyflawni. Gallwch ddarllen mwy am Lwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan yma.

Darllen mwy

YMGYSYLLTU CYMUNEDOL

Gwrando ar ein cymunedau a’u cynnwys

Rydyn ni eisiau gwrando ar ein cymunedau i’w cefnogi i ddatblygu lleoedd sy’n ystyriol o ddementia.

Ein nod yw gwneud hyn drwy:

  • Gwrando ar bobl a’u grymuso i ysgogi newidiadau cadarnhaol yn eu cymunedau eu hunain
  • Cynnig cyfleoedd i gymunedau roi ffurf ar wasanaethau
Darllen mwy

ASESIAD COF

Gwella profiadau diagnosis

Rydyn ni eisiau gwneud y daith at ddiagnosis yn well i bobl.

Ein nod yw gwneud hyn drwy:

  • Lleihau anghydraddoldebau ar draws y rhanbarth
  • Lledaenu arfer da fel y gallwn wella profiadau pobl
  • Cefnogi pobl sy’n aros am eu diagnosis
Darllen mwy

CYSYLLTWYR DEMENTIA

Recriwtio cysylltwyr dementia

Rydyn ni eisiau gwella profiad pobl wedi iddynt gael diagnosis dementia.

Ein nod yw gwneud hyn drwy:

  • Cyflogi nifer o gysylltwyr dementia ar draws Cwm Taf Morgannwg (fel peilot i ddechrau)
  • Gwerthuso’r rôl gyda phobl yr effeithir arnynt gan ddementia i wella eu profiadau
  • Cefnogi pobl i gynllunio ar gyfer eu hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol
Darllen mwy

SIARTER YSBYTY CYFEILLGAR I DDEMENTIA

Gweithredu’r siarter ysbytai cyfeillgar i ddementia

Rydyn ni eisiau gwella profiad pobl â dementia pan fyddan nhw yn yr ysbyty.

Ein nod yw gwneud hyn drwy:

  • Gwella ein hamgylcheddau
  • Gwella’r gofal y mae pobl yn ei dderbyn
  • Monitro a chefnogi staff i wneud gwelliannau
  • Cydlynu symud yn ddi-dor rhwng lleoliadau ysbytai pan fo angen
Darllen mwy

ADDYSGU A DATBLYGU'R GWEITHLU

Cefnogi a datblygu ein gweithluoedd

Rydyn ni eisiau datblygu ein staff i ddarparu’r gofal dementia gorau yn eu hymarfer dyddiol.

Ein nod yw gwneud hyn drwy:

  • Deall ein gwasanaethau dementia a’n llwybrau atgyfeirio
  • Nodi ble ceir bylchau y mae angen eu llenwi
  • Nodi’r ffordd orau o ddefnyddio cyllid i gefnogi newidiadau cadarnhaol
  • Creu cynllun i ddatblygu ein gweithlu yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar bobl
Darllen mwy

MESURIADAU DATA

Deall ein poblogaethau

Rydyn ni eisiau deall ein poblogaeth fel y gallwn ddatblygu gwell gwasanaethau.

Ein nod yw gwneud hyn drwy:

  • Gwella ein moddau o gasglu data
  • Gweithio gyda’n meddygon teulu i ddeall ein poblogaeth o bobl â dementia
  • Gwella sut rydyn ni’n cofnodi canlyniadau i bobl fel y gallwn ledaenu arfer da a gwella gwasanaethau
Darllen mwy

Yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni

Photo

1800+

Bu dros 1800 o bobl yn rhan o greu'r blaenoriaethau hyn.

Photo

6

Bydd chwe ffrwd waith dan arweiniad grŵp llywio dementia yn symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Photo

10+

Cafodd dros ddeg o ganeuon, cerddi, gweithiau celf a sgetsys drama eu creu i rannu sut mae pobl yn teimlo am y themâu hyn.

Dysgwch fwy am ein gwaith i wella gwasanaethau a chymorth i bobl sy'n byw gyda dementia yma.

Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi? Cysylltwch!

Drwy gydol y pum mlynedd byddwn yn rhannu diweddariadau ar gynnydd, ac yn gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau.

Mae’r Cynllun Ardal Rhanbarthol llawn ar gael yn y ddolen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk.

Lawrlwythwch y Cynllun Ardal Rhanbarthol

Rydyn ni’n gweithio’n galed i ymgynghori, ymgysylltu a chydgynhyrchu â phobl sydd â phrofiadau byw. Cafodd Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan, yr ydyn ni’n gweithio tuag at eu gweithredu, eu cyd-gynhyrchu gan 1800 o bobl â phrofiad byw. Law yn llaw â hyn rydyn ni wedi cynnal sawl digwyddiad a chyfleoedd i bobl ymuno â ni i ddylanwadu ar newidiadau i wasanaethau, a siarad am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Rydyn ni wedi blaenoriaethu gweithio gyda phobl sydd wedi cael profiad byw a byddwn ni’n parhau â’r sgyrsiau a gawsom, a chyfleoedd i gyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio ein gwasanaethau wrth symud ymlaen.

Yn ein rhanbarth ni mae gennym Gronfa Integreiddio Ranbarthol sy’n benodol ar gyfer dementia. Mae wedi’i neilltuo, sy’n golygu mai dim ond ar brosiectau sy’n helpu pobl â dementia neu eu gofalwyr y gellir ei wario

Ar hyn o bryd mae gennym 6 ffrwd waith sy’n edrych ar sut y gallwn ni wneud pethau’n well i bobl â dementia. Y chwe ffrwd waith yw:

1. Ymgysylltu Cymunedol
2. Gwasanaethau Asesu Cof
3. Cysylltydd Dementia
4. Siarter Ysbyty
5. Dysgu a gweithlu
6. Mesur

Gyda’i gilydd maen nhw’n adeiladu cynlluniau ac yn ymdrechu i sicrhau newid cadarnhaol yn seiliedig ar y safonau, ac mae beth ddywedodd pobl yn eu cymunedau wrthynt yn bwysig.

Os hoffech chi fod yn rhan o unrhyw ran o’n gwaith, mae llawer o gyfleoedd. Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiad byw i fod ar ein ffrydiau gwaith ond os nad yw hynny o ddiddordeb i chi ar hyn o bryd gallwch gofrestru ar gyfer ein hymgyrch dementia ble byddwn ni’n cysylltu â chi gyda chyfleoedd eraill i gymryd rhan.

Mae’r rhain yn cynnwys:

• Mynd i un o’n hacathonau
• Bod yn rhan o adolygiad llwybr Gwasanaethau Asesu cof
• Rhannu eich straeon a’ch profiadau
• Bod yn wrandäwr cymunedol fel y gallwch chi helpu pobl eraill i rannu eu straeon a’u profiadau.

Oes gennych chi neu anwylyn ddementia? Ydych chi'n gweithio gyda phobl â dementia? Rhannwch eich barn ar y blaenoriaethau hyn yma.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.