Dewch o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Adeiladu ar yr hyn mae pobl â dementia a’u gofalwyr eisoes wedi’i ddweud wrthym. Amlygodd ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth bwysigrwydd cefnogaeth a rhyngweithio cymdeithasol i bobl â dementia a'u gofalwyr.

Mae gallu cael gafael ar wybodaeth gywir yn bwysig, ac mae angen ffyrdd o ddod o hyd i gysylltiadau, gwasanaethau a chymorth yn hawdd ar bobl.

Hoffai pobl hefyd gael mwy o ymwybyddiaeth o ddementia mewn cymunedau, fel y gall pobl â dementia a'u teuluoedd deimlo'n ddiogel, yn gysylltiedig a derbyn cefnogaeth yn eu hardaloedd lleol.

Edrych yn ôl i symud ymlaen

Rydyn ni wedi gweithio gyda phobl â dementia, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i edrych ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Drwy gasglu'r wybodaeth hon, rydyn ni wedi nodi themâu blaenoriaeth i osod camau gweithredu yn eu herbyn a fydd yn gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Sut ydyn ni wedi cynnwys pobl â dementia, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol

Rydyn ni wedi cynnal sawl digwyddiad i edrych ar ffyrdd o wella gwasanaethau a chymorth i bobl sy’n byw gyda dementia, gan gynnwys:

  • Cyfres o hacathonau i lywio ein cynlluniau (mae hacathonau’n dod â gweithwyr proffesiynol a phobl â phrofiadau byw ynghyd i edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau a heriau)
  • Gweithdy cydgynhyrchu i fapio teithiau cyn ac ar ôl diagnosis i bobl â dementia er mwyn nodi arfer da a ffyrdd o wella’r profiad hwn
  • Gweithdy i edrych ar Wasanaethau Asesu Cof i ddylanwadu ar ffordd well o weithio
  • Sesiwn trochi ‘hydra minerva’ gyda gweithwyr proffesiynol a phobl â phrofiadau byw
  • Cymryd rhan yn ‘Troi Ponty’n Las’, i recriwtio gwrandawyr cymunedol

Dod â'r holl wybodaeth ynghyd

Yn fwyaf diweddar, fe wnaethon ni gynnal hacathon i edrych ar yr holl wybodaeth a gasglwyd gennym, a nodi pa gamau sydd angen eu cymryd. Fe edrychon ni ar: cael y wybodaeth a’r cymorth cywir, y daith i ddiagnosis a bywyd ar ôl diagnosis.

Sut y gellir gwella gwasanaethau?

I grynhoi, hoffai pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr gael:

  • Cefnogaeth ymarferol i ofalwyr ar sut i gefnogi eu hanwyliaid, sut i siarad â nhw a sut i ofalu amdanynt, gan gynnwys sefydlu arferion
  • Mynediad at wybodaeth hygyrch, ac i wasanaethau gael eu cydgysylltu
  • Mwy o addysg i’r person â dementia, eu teuluoedd a staff i sicrhau bod y wybodaeth a’r gefnogaeth gywir yn cael eu darparu
  • Cyfleoedd cymdeithasol ar ôl diagnosis i gynnal eu hunaniaeth
  • Atgofion ac eiliadau i’w defnyddio fel man cychwyn sgwrs i gefnogi pobl i gadw’n driw i’w hunaniaeth. Dylid ymgorffori hyn mewn amgylcheddau lle mae pobl yn derbyn gofal a chymorth, fel ein bod yn dal y pethau sy’n arbennig ac yn bwysig i bobl â dementia.

Gallwch ddarllen crynodeb o gylch pob maes isod.

Cael y wybodaeth a’r gefnogaeth gywir

“Allwch chi ddim cael cefnogaeth dda heb wybodaeth am yr hyn sydd ei angen ar bobl o’u safbwynt nhw.”

  • Hoffai pobl â dementia a gofalwyr gael cymorth cyn ac ar ôl diagnosis i’w helpu i ddeall mwy am fyw gyda dementia, a’r gwasanaethau a’r cyngor sydd ar gael.

Mae syniadau ar gyfer newid cadarnhaol yn cynnwys:

  • Edrych ar waith tebyg sy’n digwydd yn y rhanbarth, a darganfod ffyrdd o rannu adnoddau a syniadau
  • Creu deunyddiau cyfathrebu cynhwysol, a darparu cwnsela, cysylltiadau â grwpiau cymunedol, technoleg hygyrch a chyngor ymarferol fel cael mynediad at fudd-daliadau
  • Rhannu a dathlu arferion gorau

Taith at ddiagnosis

“Gall fod yn anodd cael pobl â dementia i ymgysylltu oherwydd stigma. Does dim rhaid i’r diagnosis fod yn label brawychus.”

Hoffai pobl â dementia a’u gofalwyr gael cymorth i gael diagnosis amserol, a deall pa wybodaeth a chyngor sydd ar gael wedyn.

Roedd syniadau ar gyfer newid cadarnhaol yn cynnwys:

  • Darparu profion iechyd symudol gydag asesiad llesiant gwybyddol fel rhan o hyn
  • Parhau i godi ymwybyddiaeth o ddementia i leihau stigma, ac annog pobl i geisio diagnosis

Bywyd ar ôl diagnosis

“Mae angen cefnogi pobl i gynnal eu hunaniaeth.”

Mae pobl â dementia a’u gofalwyr eisiau teimlo y gallant barhau i fwynhau eu bywydau a chael cefnogaeth i gadw eu hunaniaeth a’u diddordebau.

Roedd syniadau ar gyfer newid cadarnhaol yn cynnwys:

  • Gwasanaethau i fod ar gael mewn cymunedau lleol fel eu bod yn hawdd eu cyrchu
  • Elusennau i helpu pobl â sgiliau digidol i ehangu eu mynediad at wasanaethau cymorth
  • Creu mwy o gymunedau cyfeillgar i ddementia
  • Datblygu hybiau lleol i ofalwyr lle gallant dderbyn mwy o wybodaeth e.e. dosbarthiadau coginio, mannau i anadlu, cysylltu a datblygu rhwydweithiau

Eisiau cymryd rhan mewn gwella gwasanaethau
i bobl â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd?

Efallai y bydd yr adroddiadau isod o ddefnydd chi.

Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Rydyn ni wedi amlygu blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cymunedau yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth. Yma rydyn ni’n esbonio sut y bui ni weithio gyda chymunedau i nodi'r rhain.

Darllen mwy

Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae ein Cynllun Ardal Rhanbarthol yn amlinellu’r camau a gymerir i wella gwasanaethau a chymorth.

Darllen mwy

Cynllun Ardal Rhanbarthol (Hawdd ei Ddarllen)

Mae fersiwn Hawdd ei Ddarllen o’n Cynllun Ardal Rhanbarthol ar gael yma.

Darllen mwy

Cyfranwyr, Rhwystrau ac Atebion i Gydgynhyrchu

Mae’r adroddiad Mae Ein Llais yn Cyfri yn dangos y cyfranwyr, y rhwystrau a’r atebion i gydgynhyrchu.

Download here

Cydgynhyrchu mewn argyfwng

Cyd-gynhyrchu Mewn Argyfwng: Gwerthfawrogi Lleisiau Cwm Taf Morgannwg drwy Bandemig Covid-19'. Mae’r adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect Mae Ein Llais yn Cyfri, yn rhannu enghreifftiau o arfer da ac argymhellion ar gyfer gwreiddio cydgynhyrch.

Download here

Cyfoethogi bywydau trwy godi safonau a gwella gofal dementia.

Rydym wedi lansio ymgyrch newydd i godi safonau a gwella gofal dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.