GWYBODAETH, CYNGOR A CHYFARWYDDYD

Sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt

Rydyn ni eisiau sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, fel y gallan nhw gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.

Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:

  • Helpu gofalwyr a’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt i gysylltu â gwasanaethau, a chael apwyntiadau mewn modd amserol
  • Gwella dealltwriaeth o’r rôl ofalu, fel bod cymorth ar gael i ofalwyr cyn diagnosis, yn yr amgylchedd fwyaf addas.
  • Gwella cydlyniad gwasanaethau cefnogi gofalwyr, gydag anghenion gofalwyr yn ganolog.
  • Gwella’r gydnabyddiaeth o ofalwyr fel aelodau allweddol o’r tîm gofal.
  • Moderneiddio’r seibiant a gynigir ar draws y rhanbarth, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd
  • Gwella canlyniadau addysgol pobl ifanc sydd â rôl ofalu.
Darllen mwy

IECHYD A LLESIANT

Cefnogi gofalwyr i fwynhau iechyd a llesiant da

Rydyn ni eisiau sicrhau bod gofalwyr a’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt yn gallu byw bywydau iach, sydd o fudd i’w llesiant emosiynol a chorfforol.

Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:

  • Diogelu hunaniaeth gofalwr fel person yn ei rinwedd ei hun gan gynnwys mwy o gefnogaeth i ofalwyr ofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.
  • Gwella’r wybodaeth sydd ar gael i ofalwyr fel eu bod nhw’n fwy gwybodus am y gwasanaethau a’r gweithgareddau sydd ar gael ar draws y rhanbarth.
  • Darparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar, gan liniaru rhag gweld gofalwyr yn cyrraedd pwynt argyfwng.
Darllen mwy

CAEL HWYL

Cefnogi gofalwyr i gael ‘amser i fi’

Rydyn ni eisiau sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael mynediad at weithgareddau cymdeithasol, hamdden, diwylliannol a hwyliog, ble bynnag y maen nhw’n byw, neu beth bynnag fo’u hamgylchiadau.

Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:

  • Cynyddu’r dewis o seibiannau tymor byr sydd ar gael i ofalwyr, a’u hargaeledd.
  • Cynyddu cyrhaeddiad cynllun ‘man diogel’ i gymunedau ar draws y rhanbarth; darparu mannau ble gall gofalwyr feithrin cyfeillgarwch
Darllen mwy

Beth rydyn ni wedi ei gyflawni

Photo

200+

Mae dros 200 o bobl wedi bod yn rhan o greu'r blaenoriaethau hyn.

Photo

1

Bydd ein grŵp llywio gofalwyr di-dâl yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn.

Photo

10+

Mae dros ddeg o ganeuon, cerddi, gweithiau celf a sgetsys drama wedi’u creu i rannu sut mae pobl yn teimlo am y themâu hyn.

Dysgwch ragor am ein gwaith i wella gwasanaethau a chymorth i ofalwyr di-dâl yma.

Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi? Cysylltwch!

Drwy gydol y pum mlynedd byddwn yn rhannu diweddariadau ar gynnydd, ac yn gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiadau byw, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i fod yn rhan o’n gwaith. Gallwch gofrestru ar gyfer ein tudalen gyswllt, a hefyd gofrestru i fynychu ein digwyddiadau.

Mae’r Cynllun Ardal Rhanbarthol llawn ar gael yn y ddolen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk.

Lawrlwythwch y Cynllun Ardal Rhanbarthol

Bydd ein grŵp llywio gofalwyr di-dâl, sy’n eistedd o dan ein Bwrdd Rhanbarthol Oedolion, yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn dros y pum mlynedd nesaf.

Ar y cyd â’n cynrychiolydd gofalwyr di-dâl, byddan nhw’n edrych ar sut y gellir cyflawni’r camau hyn mewn partneriaeth i wella gwasanaethau a chymorth.

Dolenni defnyddiol

Mae gofalwyr di-dâl a gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi wedi helpu i lunio’r blaenoriaethau hyn. Byddwn ni’n adolygu’r blaenoriaethau hyn yn flynyddol, ac yn parhau i gynnwys gofalwyr di-dâl a gweithwyr proffesiynol wrth eu gweithredu.

A ydych yn ofalwr di-dâl neu a ydych yn cefnogi gofalwyr di-dâl? Rhannwch eich barn ar y blaenoriaethau hyn yma.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.