Dewch o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Cefndir

Mae tua 400,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, a disgwylir i’r ffigwr hwn godi i dros hanner miliwn erbyn 2027. Gall gofalu am anwylyd gael effaith andwyol ar iechyd a lles meddyliol a chorfforol, yn ogystal â chanlyniadau cyflogaeth ac addysg.

Mae’n bwysig i ni ddeall effaith rôl ofalu, a gweithio gyda gofalwyr di-dâl sy’n byw yn CTM i gynnal iechyd a llesiant da, teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi, a gwireddu eu potensial.

Drwy wrando ar leisiau gofalwyr di-dâl, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi, rydyn ni wedi datblygu meysydd blaenoriaeth y byddwn ni’n canolbwyntio arnynt am y pum mlynedd nesaf.

Ar y dudalen hon gallwch ddarllen sut y gwnaethon ni gasglu mewnwelediadau i lywio ein ffocws.

Adeiladu ar beth mae gofalwyr di-dâl eisoes wedi'i ddweud wrthym

Amlygodd ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth diweddaraf y byddai gofalwyr yn hoffi mwy o fynediad at wybodaeth a chyngor, yr hoffen nhw deimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi’n well yn eu rolau gofalu, a chael cyfleoedd i fwynhau eu hobïau a’u diddordebau.

Edrych yn ôl i symud ymlaen

Fe wnaethon ni adolygu popeth mae gofalwyr di-dâl wedi'i ddweud wrthym, ac amlygu themâu allweddol i'w harchwilio'n fanwl gyda gofalwyr di-dâl a gweithwyr proffesiynol. Drwy edrych ar y materion hyn, gallwn nodi pa gamau sydd angen eu cymryd i wella gwasanaethau a chymorth. Mae'r mewnwelediadau o'r hacathon wedi llunio ein Cynllun Ardal Rhanbarthol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Profiadau Kay a Ceri

Yn 2021, rhannodd dau ofalwr di-dâl, Kay a Ceri, eu straeon, a’r hyn yr hoffen nhw ei weld gan wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles.

Darllenwch stori Ceri

Sut wnaethon ni gynnwys gofalwyr di-dâl

Yn ystod hydref 2022 fe wnaethon ni gyfarfod â gofalwyr di-dâl mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Ofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â rhedeg ein hac-a-thon ein hunain.

Fe edrychon ni ar y blaenoriaethau a amlygwyd ar gyfer gofalwyr di-dâl yn ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth a thrafod pa gamau y gallwn ni eu cymryd i wella gwasanaethau.

Ymysg y themâu a archwiliwyd roedd:

  • Iechyd Corfforol a Llesiant Meddyliol
  • Mynediad at wybodaeth a gwasanaethau
  • Amser i fi
  • Cefnogaeth i ofalwyr
  • Unigrwydd ac ynysrwydd
  • Byw’n annibynnol
  • Adref o’r ysbyty
  • Gwasanaethau a chymorth cymunedol
  • Gofal dementia da

Sut y gellir gwella gwasanaethau?

I grynhoi, hoffai gofalwyr di-dâl weld:

  • Ailddiffinio’r term ac ail-fframio’r ieithwedd a ddefnyddir wrth gyfeirio at ‘ofalwyr’ – gall gymryd amser hir i bobl adnabod eu hunain fel gofalwr, a all olygu nad ydyn nhw’n ceisio cymorth tan i bethau fynd i’r pen.
  • Sefydlu un tîm ‘o amgylch y gofalwr’ i sicrhau bod lefel gyson o gymorth.
  • Symleiddio’r broses ddiagnosis i blant gyda thîm amlddisgyblaethol a sefydlwyd i adnabod masgio, deall materion a sut i gefnogi’r plentyn
  • Integreiddio sefydliadau trydydd sector o fewn timau ysbytai i sicrhau bod gofalwyr yn cael cyngor a chefnogaeth cyn gynted ag y bydd eu hanwyliaid yn mynd yn sâl
  • Sefydlu grŵp cymunedol fel y gall pobl sy’n byw gyda dementia ac Alzheimer’s fynd i gymdeithasu a chael hwyl gyda phobl ar yr un cam o’r daith, a fydd yn rhoi sicrwydd a chysur i ofalwyr (e.e. grŵp tebyg i Men’s Shed).
  • Ymgyrch ymwybyddiaeth i gydnabod y gwerth mae gofalwyr yn ei gynnig, a hawliau gofalwyr, ac i helpu pobl i ddeall pryd y maen nhw’n ofalwr er mwyn iddyn nhw allu ceisio cymorth cyn argyfwng.
  • Gwella’r broses o rannu gwybodaeth – sefydlu hyb gwybodaeth i ofalwyr allu cael gafael ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt, wedi’i gefnogi gan gwrs i ofalwyr a gaiff ei arwain gan sefydliad ymbarél a gofalwyr, er mwyn cynnig cyngor, cymorth a gwybodaeth am Hawliau Gofalwyr
  • Cefnogi gofalwyr i gael llais ac i ddylanwadu ar wasanaethau yn gydgynhyrchiol trwy gynnal sgyrsiau ‘beth sy’n bwysig?’ mwy ystyrlon

Free Our Souls

Gwrandewch ar y gân hon am brofiadau o ofalu am rywun annwyl.

Cerdd gair llafar ‘Dau Lais’

Gwrandewch ar y darn llafar hwn am sut y gall rôl ofalu effeithio ar fywyd.

Darllen cerdd

Eisiau cymryd rhan mewn gwella gwasanaethau i ofalwyr di-dâl?

Efallai y bydd yr adroddiadau isod yn ddefnyddiol i chi.

Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Rydyn ni wedi amlygu blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cymunedau yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth. Yma rydyn ni’n esbonio sut y bui ni weithio gyda chymunedau i nodi'r rhain.

Darllen mwy

Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae ein Cynllun Ardal Rhanbarthol yn amlinellu’r camau a gymerir i wella gwasanaethau a chymorth.

Darllen mwy

Cynllun Ardal Rhanbarthol (Hawdd ei Ddarllen)

Mae fersiwn Hawdd ei Ddarllen o’n Cynllun Ardal Rhanbarthol ar gael yma.

Darllen mwy

Cyfranwyr, Rhwystrau ac Atebion i Gydgynhyrchu

Mae’r adroddiad Mae Ein Llais yn Cyfri yn dangos y cyfranwyr, y rhwystrau a’r atebion i gydgynhyrchu.

Lawrlwythwch yma

Cydgynhyrchu mewn argyfwng

Cyd-gynhyrchu Mewn Argyfwng: Gwerthfawrogi Lleisiau Cwm Taf Morgannwg drwy Bandemig Covid-19'. Mae’r adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect Mae Ein Llais yn Cyfri, yn rhannu enghreifftiau o arfer da ac argymhellion ar gyfer gwreiddio cydgynhyrch.

Lawrlwythwch yma

All Wales Dementia Care Pathway of Standards

Sed ut perspiciatis unde omnis iste natus error sit voluptatem accusantium doloremque laudantium, totam rem aperiam eaque ipsa, quae ab illo inventore veritatis et quasi architecto beatae vitae dicta sunt, explicabo.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.