Isod, gallwch ddod o hyd i wybodaeth a fydd, gobeithio, o gymorth i ofalwyr di-dâl sy’n byw yng Nghwm Taf Morgannwg.

Byw fel gofalwr di-dâl yng Nghwm Taf Morgannwg

Mae rhywun yn ofalwr os ydyn nhw’n gofalu am aelod o’r teulu, partner neu ffrind sydd angen cymorth am eu bod nhw’n sâl, yn fregus neu’n byw gydag anabledd.

Does dim mo’r fath beth â ‘gofalwr arferol’. Mewn gwirionedd gall gofalwyr gynnwys pobl ifanc, oedolion ifanc, rhieni, oedolion o oedran gweithio neu bobl hŷn.

Gall bod yn ofalwr di-dâl fod yn her. Dyna pam mae’n bwysig teimlo fod rhywun yn gwrando ac yn deall, a bod modd cael mynediad i’r wybodaeth, y cyngor a’r gwasanaethau diweddaraf, fel grwpiau cymorth.

Isod, gallwch ddod o hyd i wybodaeth a phrofiadau y bydd yn helpu gofalwyr, gobeithio.

Rydyn ni eisiau gweithio gyda gofalwyr hefyd er mwyn gwella cefnogaeth. Ar y dudalen hon rydym ni hefyd wedi rhestru amryw weithgareddau y gall gofalwyr gymryd rhan ynddyn nhw, gobeithio.

 

Clywed lleisiau a phrofiadau gofalwyr

Cân a gyfansoddwyd gyda gofalwyr

Isod rydym wedi cynnwys cân rymus a gyfansoddwyd gyda gofalwyr yn ein digwyddiadau hac-a-thon.

Mae’r profiadau hyn wedi bwydo i mewn i ddarnau pwysig o waith, gan gynnwys ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth a’r Cynllun Ardal Rhanbarthol, sy’n amlinellu gweithredoedd a gymerir i gefnogi gofalwyr sy’n byw yn ein rhanbarth

Perfformiwyd y gân yn ein digwyddiad Clywch Ein Lleisiau a Gŵyl Lleswyl. Diolch i Daring to Dream am gefnogi’r gwaith o ffilmio’r gân hon.

Siaradodd y gofalwyr di-dâl, Kay a Ceri, gyda ni am eu profiadau. Gwrandewch yma.

Rydyn ni wedi llunio casgliad o brofiadau oddi wrth ofalwyr di-dâl, ac rydym wedi tynnu sylw at brosiectau sy’n cefnogi gofalwyr. Darllenwch fwy isod.

Stori Ceri

Yn y stori hon rydym yn cwrdd â Ceri sydd wedi bod yn gofalu am bobl, gan gynnwys ei rhieni ei hun, ers ei harddegau

Darllen mwy

Dyma Yasmin

Yn y stori hon rydym yn cwrdd â Yasmin sy'n ofalwr i'w mam, sy'n byw gyda Alzheimer’s a dementia fasgwlaidd.

Dyma Yasmin

Cynorthwywr Marie Curie

Mae'r prosiect yn helpu teuluoedd sy'n byw gyda salwch terfynol

Darllen mwy

Cefnogaeth a chyngor i ofalwyr di-dâl.

Canllaw gofalwyr Cwm Taf Morgannwg

Mae’r canllaw hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd eisiau help oherwydd eu salwch neu’u hanabledd.

Lawrlwytho yma.

Gwasanaethau cefnogi gofalwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnig ystod o wasanaethau i ofalwyr.

Darllen mwy.

Cefnogaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf i ofalwyr

Os ydych chi’n byw yn RCT, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr yma.

Darllen mwy.

Cefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofalwyr

Os ydych chi’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr yma.

Darllen mwy.

Cefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ofalwyr

Os ydych chi’n byw ym Merthyr Tudful, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr yma.

Darllen mwy.

Taflenni ffeithiau Gofalwyr Cymru

Mae’n bwysig fod gofalwyr yn ymwybodol o’u hawliau, a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Mae Gofalwyr Cymru wedi datblygu taflenni ffeithiau defnyddiol yma.

Darllen mwy

Gall gofalu am anwylyn â dementia fod yn anodd dros ben. Helpwch ni i lunio sut mae gofal a chefnogaeth dementia’n edrych drwy gymryd rhan yn ein gwaith isod.

Ymunwch â ni i lywio’r ffordd y mae gofal a chefnogaeth yn edrych i bobl sydd â dementia, gofalwyr a’u teuluoedd.

Pan rydym i gyd yn dod at ein gilydd, rydym yn gwneud pethau yn well i bawb.

Cofrestrwch yma

6 Gorffennaf - hasathon gwella gwasanaethau a chefnogiaeth dementia hack-a-thon

Bydd y digwyddiad yn dod â phobl yr effeithir arnynt gan ddementia a gweithwyr proffesiynol ynghyd i edrych ar y rhwystrau a'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Gyda'n gilydd gallwn gynnig atebion i wella gwasanaethau.

Cofrestrwch yma

A yw ein cymunedau yn gwybod digon am ddementia? Sut gallwn ni wella profiad diagnosis rhywun?

Dweud eich dweud ar wella gwasanaethau a chymorth dementia

Cymerwch ein harolwg yma..

Cliciwch yma

Dweud eich dweud ar wella gwasanaethau a chymorth dementia - Hawdd ei Ddarllen

Cymerwch ein harolwg yma.

Cliciwch yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.