Mae byw gyda salwch terfynol yn brofiad ofnadwy, i’r un sy’n sâl, ac i’w anwyliaid.
Dyna pam ei bod hi mor bwysig cael y gofal a’r gefnogaeth gywir. Gall pethau bach, fel cael sgwrs dros baned, neu gael cefnogaeth i wneud neges, gael effaith gadarnhaol pan fydd rhywun yn wynebu cyfnod heriol.
Mae gwasanaeth Helpwr Marie Curie’n cysylltu teuluoedd â Helpwr gwirfoddol penodol sydd wedi’i hyfforddi, a fydd yn ymweld â theuluoedd yn eu cartref, yn mynd mas gyda nhw i rywle, neu’n cael sgwrs dros y ffôn.
Am ychydig oriau bob wythnos, gan yr unigolyn, a’i anwyliaid, ddibynnu ar rywun i fod yno ar eu cyfer, pan fo’u hangen.
Sut mae’r prosiect yn gweithio?
Mae pawb yn wahanol ond gall y math o gefnogaeth y bydd yr Helpwr gwirfoddol yn ei roi gynnwys:
Cwmpeini a chefnogaeth emosiynol – clust gyfeillgar, rhywun i wrando ar beth bynnag sydd ym mhen rhywun.
Cymorth ymarferol – bydd Helpwr gwirfoddol yn mynychu apwyntiadau neu ddigwyddiadau cymdeithasol i helpu gyda thasgau bob-dydd
Saib i deuluoedd a gofalwyr – bydd gwirfoddolwyr yn eistedd gyda’r person er mwyn i’w teulu neu ofalwr gael seibiant am ychydig oriau
Gwybodaeth am ragor o gefnogaeth – bydd gwirfoddolwyr yn helpu i chwilio am gefnogaeth a gwasanaethau eraill sydd ar gael yn yr ardal
Bydd Helpwyr gwirfoddol hefyd yn darparu cefnogaeth i deuluoedd am ychydig fisoedd ar ôl y brofedigaeth.
Bydd y gwasanaeth yn dysgu mwy am y person a’u teulu cyn paru Helpwr gwirfoddol.
Mae’r gwirfoddolwyr wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol ar gyfer eu rôl.
Ar ôl eu paru, gall y teulu gysylltu â’u Helpwr gwirfoddol i drafod y gefnogaeth sydd angen.
Seilir y gwasanaeth yn llwyr o gwmpas anghenion yr unigolyn a’u teulu. Gall gwirfoddolwyr gynnig sgwrs dros y ffôn, cymorth ymarferol neu ragor o wybodaeth.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch isod.
Gall y gwasanaeth helpu rhywun os ydyn nhw’n 18 oed neu hŷn, gyda salwch terfynol, neu os yw’r unigolyn yn gofalu am rywun â salwch terfynol.
Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
Ffôn 0800 304 7407*
Efallai y bydd yn rhaid talu cost galwad. Gwiriwch gyda’ch darparwr.
Email UsRydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.