The River

Ysgrifennwyd y gân hon gyda phobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, am eu profiadau.

Gwrandewch ar bodlediad am y gân yma.

CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU

Cefnogi pobl sy’n camddefnyddio sylweddau i gael y cymorth cywir

Rydyn ni eisiau cefnogi pobl sy’n camddefnyddio sylweddau i leihau’r niwed y gallan nhw fod yn ei achosi iddyn nhw’u hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:

  • Gweithio gyda Bwrdd Cynllunio Ardal Cwm Taf Morgannwg i wella integreiddio’r gwasanaethau ar gyfer anhwylderau defnyddio sylweddau ar draws y continwwm.
  • Gwella’r cydlyniant rhwng gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a chymorth iechyd meddwl.
Darllen mwy

MYNEDIAD I WASANAETHAU

Sicrhau bod pobl yn cael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd meddwl

Rydyn ni eisiau cefnogi pobl i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau iechyd meddwl yn eu hardaloedd lleol. Gall hyn helpu i wella eu lles, a lleihau unigrwydd ac ynysrwydd.

Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:

  • Gwella’r broses o integreiddio gwasanaethau ar draws ein cymunedau gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysrwydd.
  • Cynyddu adnoddau mynediad agored o fewn ardaloedd lleol, sydd ar gael i bwy bynnag sydd eu hangen.
  • Cynyddu addysg ac ymwybyddiaeth o gyflyrau penodol a fydd yn gwella cynhwysiant ac yn annog pobl i ymgysylltu.
Darllen mwy

AROS YN IACH

Cefnogi pobl sy’n aros am ddiagnosis iechyd meddwl i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw

Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl sy’n aros am ddiagnosis o gyflwr iechyd meddwl yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu ‘aros yn iach’.

Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:

  • Sicrhau bod gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yn cael eu hintegreiddio’n well, fel nad yw pobl yn cael eu trosglwyddo rhwng gwasanaethau lluosog heb gymorth a chefnogaeth ddigonol.
  • Sicrhau bod pobl yn cael eu rhoi yng nghanol cynllunio gofal a chymorth ac yn derbyn y gwasanaethau perthnasol.
  • Sicrhau bod gwybodaeth allweddol ar gael yn hawdd fel bod pobl yn fwy ymwybodol o’r gwasanaethau a’r ddarpariaeth sydd ar gael iddynt.
  • Gwella mynediad at gymorth, gan gynnwys hunan-atgyfeirio a chyfeirio gan Feddyg Teulu, i gyflymu diagnosis posibl a gweld pawb yn dechrau triniaeth yn gynt.
Darllen mwy

CREU SYSTEM SY'N GWEITHIO

Darparu ymagwedd ‘system gyfan’ well ar gyfer cymorth iechyd meddwl

Rydyn ni eisiau dod â phobl sydd â phrofiadau byw a gweithwyr proffesiynol ynghyd i ddatblygu dull a fydd yn gwella’r system iechyd meddwl yn ei chyfanrwydd, yn hytrach na meysydd unigol.

Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:

  • Deall rhychwant ac angen cymorth iechyd meddwl ar hyn o bryd yn well, o gymorth ataliol i gymorth arbenigol.
  • Uwchsgilio staff / gweithwyr proffesiynol ar draws y rhanbarth fel y gallant gefnogi pobl (yn briodol) i gyflawni iechyd meddwl a lles da.
  • Gwella cefnogaeth arbenigol i’r rhai sy’n profi problemau iechyd meddwl.
Darllen mwy

Beth ydyn ni wedi’i gyflawni

Photo

200+

Mae dros 200 o bobl wedi bod yn rhan o greu'r blaenoriaethau hyn.

Photo

3

Bydd tri gweithgor yn symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Photo

10+

Mae dros ddeg o ganeuon, cerddi, gweithiau celf a sgetsys drama wedi’u creu i rannu sut mae pobl yn teimlo am y themâu hyn.

Dysgwch ragor am ein gwaith i wella gwasanaethau a chymorth i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yma.

Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi? Cysylltwch!

Drwy gydol y pum mlynedd byddwn yn rhannu diweddariadau ar gynnydd, ac yn gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiadau byw, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i fod yn rhan o’n gwaith. Gallwch gofrestru ar gyfer ein tudalen gyswllt, a hefyd gofrestru i fynychu ein digwyddiadau.

Mae’r Cynllun Ardal Rhanbarthol llawn ar gael yn y ddolen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk.

Lawrlwythwch y Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi wedi helpu i lunio’r blaenoriaethau hyn. Byddwn ni’n adolygu’r blaenoriaethau hyn yn flynyddol, ac yn parhau i gynnwys pobl â phroblemau iechyd meddwl a gweithwyr proffesiynol wrth eu gweithredu.

Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys y Bwrdd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau i symud y gwaith hwn ymlaen dros y pum mlynedd nesaf.

Gyda’n gilydd byddwn ni’n edrych ar sut y gellir cyflawni’r camau hyn mewn partneriaeth i wella gwasanaethau a chymorth.

Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl? Ydych chi'n gweithio fel gweithiwr proffesiynol mewn gwasanaethau iechyd meddwl? Rhannwch eich barn ar y blaenoriaethau hyn yma.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.