Cefndir

Gall iechyd meddwl a llesiant da gael effaith gadarnhaol ar berthynas pobl, addysg, hyfforddiant a gwaith. Fodd bynnag, gall nifer o ffactorau effeithio ar y ffordd mae pobl yn teimlo, ac mae’n bwysig bod pobl yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth gywir.

Mae creu system dda sy’n gweithio i blant, pobl ifanc ac oedolion yn hanfodol i wella canlyniadau iechyd meddwl a llesiant.

Ar y dudalen hon gallwch ddarllen sut  wnaethon ni gasglu mewnwelediadau i lywio ein ffocws ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Adeiladu ar y pethau mae pobl â phroblemau iechyd meddwl eisoes wedi’i ddweud wrthym

Yn ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth, dywedodd pobl wrthym y bydden nhw’n hoffi cael mynediad at gymorth a chyngor, yn ogystal â mwy o wasanaethau ac apwyntiadau sy’n cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl. Bydden nhw hefyd yn hoffi gweld mwy o wasanaethau ataliol sy'n cynyddu gwytnwch o fewn cymunedau.

Edrych yn ôl er mwyn symud ymlaen

Fe edrychon ni ar yr holl flaenoriaethau y tynnwyd sylw atyn nhw yn ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth, ac amlygu themâu allweddol i'w harchwilio'n fanylach. Gyda'n gilydd fe wnaethon ni edrych ar y camau sydd angen eu cymryd mewn partneriaeth i wella gwasanaethau a chefnogaeth.

Y stori tu ôl i 'The River', a gyfansoddwyd gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol

Roedd y mewnwelediadau a ddeilliodd o’r gân hon yn bwydo i’n pennod ar iechyd meddwl yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth.

Gwrandewch ar 'The River'

Sut wnaethon ni gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl wrth lunio ein Cynllun Ardal Rhanbarthol

Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael y cymorth, y gwasanaethau a’r wybodaeth gywir.

Yn 2022, cynhalion ni hac-a-thon a ddaeth â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a gweithwyr proffesiynol ynghyd. Gyda’i gilydd buon nhw’n edrych ar beth sy’n bwysig i ddefnyddwyr gwasanaethau, a sut  allwn ni gydweithio i wella iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ystod ein hac-a-thon iechyd meddwl, rhannwyd pawb yn grwpiau i edrych ar:

  • Camddefnyddio sylweddau
  • Unigrwydd ac arwahanrwydd
  • Taith at ddiagnosis

 

Sut y gellir gwella gwasanaethau?

I grynhoi, hoffai pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl weld:

  • Mannau di-alcohol i gymdeithasu ynddyn nhw, gan gynnwys clybiau, tafarndai a mannau bwyta
  • Dull un drws gyda mynediad at yr holl wasanaethau (e.e. rhywun yn camddefnyddio sylweddau hefyd yn cael cymorth holistig)
  • Cysylltu pobl sy’n teimlo’n unig â’i gilydd: buddsoddi mewn gwasanaethau cyfeillio i bob oed, hybiau aml-oedran
  • Defnyddio lleoliadau cymunedol presennol i ddarparu cymorth heb y stigma o fynd i wasanaeth iechyd meddwl ‘hysbys’
  • Un tîm yn gwybod stori gyfan y person, yn gweithio gyda’r person a thros y person

 

'Destination'

Gwrandewch ar y gân hon am brofiadau o gamddefnyddio sylweddau.

Darllen geiriau

‘Road to Somewhere’

Gwrandewch ar y gân hon am ymgodymu â iechyd meddwl gwael, a phwysigrwydd dod o hyd i’r gefnogaeth gywir.

Darllen geiriau

Eisiau cymryd rhan mewn gwella gwasanaethau i bobl y mae problemau iechyd meddwl yn effeithio arnyn nhw?

You may find the reports below useful.

Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Rydyn ni wedi amlygu blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cymunedau yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth. Yma rydyn ni’n esbonio sut y bui ni weithio gyda chymunedau i nodi'r rhain.

Darllen mwy

Cynllun Ardal Rhanbarthol

Mae ein Cynllun Ardal Rhanbarthol yn amlinellu’r camau a gymerir i wella gwasanaethau a chymorth.

Darllen mwy

Cynllun Ardal Rhanbarthol (Hawdd ei Ddarllen)

Mae fersiwn Hawdd ei Ddarllen o’n Cynllun Ardal Rhanbarthol ar gael yma.

Darllen mwy

Cyfranwyr, Rhwystrau ac Atebion i Gydgynhyrchu

Mae’r adroddiad Mae Ein Llais yn Cyfri yn dangos y cyfranwyr, y rhwystrau a’r atebion i gydgynhyrchu.

Lawrlwythwch yma

Cydgynhyrchu mewn argyfwng

Cyd-gynhyrchu Mewn Argyfwng: Gwerthfawrogi Lleisiau Cwm Taf Morgannwg drwy Bandemig Covid-19'. Mae’r adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect Mae Ein Llais yn Cyfri, yn rhannu enghreifftiau o arfer da ac argymhellion ar gyfer gwreiddio cydgynhyrch.

Lawrlwythwch yma

Cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl 2019 i 2022

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd meddwl a lles ein poblogaeth.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.