
Dementia
Rydyn ni’n gwybod y gall byw gyda dementia fod yn heriol, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi a bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.
Darllen mwy
Gofalwyr di-dâl
Ein nod yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn teimlo eu bod nhw’n cael eu clywed a'u bod yn cael eu deall, a'u bod yn gallu cael gafael ar y wybodaeth, y cyngor a'r gwasanaethau diweddaraf, fel grwpiau cymorth.
Darllen mwy
Iechyd meddwl
Rydyn ni’n edrych ar ffyrdd o gefnogi iechyd meddwl pobl sy'n byw yn CTM. Mae hyn yn cynnwys gwella systemau i ddarparu gwasanaethau gwell, a chael gwared ar rwystrau ac anghydraddoldebau.
Darllen mwy
Anableddau dysgu
Rydyn ni’n gwybod fod pobl yn profi anableddau dysgu mewn llawer o wahanol ffyrdd; a'n nod yw sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed er mwyn iddyn nhw allu cael mwy o berchnogaeth a rheolaeth dros eu bywydau.
Darllen mwy
Pobl hŷn
Rydyn ni’n sicrhau bod gan bobl hŷn y wybodaeth, y cyngor a’r gwasanaethau cywir, er mwyn iddyn nhw allu gwneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd a’u gofal cymdeithasol, a pharhau i fyw’n annibynnol cyhyd â phosibl.
Darllen mwy
Niwroamrywiaeth
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â meysydd iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector, y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i wella gwasanaethau a chymorth i bobl niwroamrywiol.
Darllen mwy
Pobl â namau ac anableddau ar y synhwyrau
Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl ag anableddau corfforol a namau ar y synhwyrau (lleihad neu golli golwg, clyw neu'r ddau) yn cael eu grymuso i wneud dewisiadau a theimlo'n rhan o'u cymunedau.
Darllen mwy