Dewch o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano

Cyflwyniad

Rydyn ni’n gwybod y gall byw gyda dementia fod yn heriol ac yn ynysig iawn i’r sawl sy’n ei brofi, ac i’w hanwyliaid.

Bydd pobl yn profi dementia yn eu ffordd eu hunain. Dyna pam ei bod hi’n bwysig eu bod nhw’n gallu cael mynediad at y wybodaeth, y cyngor a’r gwasanaethau sy’n iawn iddyn nhw, a hefyd eu bod nhw’n teimlo fod rhywun yn gwrando arnyn nhw.

Am ein Rhaglen Dementia

Mae ein rhaglen dementia yn gweithio ar draws chwe ffrwd waith, a oruchwylir gan grŵp llywio dementia. Mae ein ffrydiau gwaith yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ar ein blaenoriaethau.

Edrychwch ar y strwythur yma.

Rydyn ni wedi gweithio gyda phobl â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr i nodi’r camau gweithredu sydd angen eu cymryd i wella gwasanaethau a chymorth yng Nghwm Taf Morgannwg.

Dysgwch am ein blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer pobl â dementia yma.

Darllenwch sut mae pobl â dementia a’u teuluoedd wedi rhannu eu llais yma.

Rydyn ni wedi lansio ymgyrch newydd i godi safonau a gwella gofal dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Dewch i gwrdd â Lowri, Rheolwr Rhaglen Dementia ar draws Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg

“Fel rheolwr rhaglen dementia, fy nghyfrifoldeb i yw helpu i wneud pethau’n well mewn gofal a chymorth dementia ar draws y rhanbarth.

“Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda phobl â dementia, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i weithio tuag at roi’r Cynllun Gweithredu Dementia a Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan ar waith.”

Darllenwch blog Lowri

Ymunwch â ni i roi siâp ar sut mae gofal a chymorth yn edrych ar gyfer pobl â dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd.

Pan fydd pawb yn dod at ein gilydd, rydyn ni’n gwneud pethau’n well i bawb.

Cymerwch ran

Cymorth a chyngor ar ddementia

Rydyn ni wedi casglu gwybodaeth am gefnogaeth a chyngor i helpu pobl sy’n pryderu am ddementia.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.