Isod gallwch ddod o hyd i wybodaeth yr ydym yn gobeithio y bydd yn helpu pobl sy'n pryderu am ddementia.

Cymorth gyda diagnosis dementia

Oeddech chi’n gwybod bod dros 88,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghwm Taf Morgannwg?

Y cynharaf y mae rhywun yn cael diagnosis, y cynharaf y gallant gael mynediad i’r cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae mwy o opsiynau triniaeth ar gael hefyd os yw rhywun yn cael diagnosis digon cynnar.

Mae cymorth a gwasanaethau ar gael yn ein rhanbarth i gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.

Isod gallwch ddod o hyd i wybodaeth yr ydym yn gobeithio y bydd yn eich helpu. Gallwch hefyd ddod o hyd i ffyrdd o gymryd rhan i’n helpu i wella gofal a chymorth dementia

 

Rydym wedi llunio casgliad o brofiadau gan bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia, a'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal a chymorth dementia. Darllen mwy isod

Stori Ceri

Yn y stori hon rydym yn cwrdd â Ceri sydd wedi bod yn gofalu am bobl, gan gynnwys ei rhieni ei hun, ers ei harddegau

Darllen mwy

Stori Richard a Peggy

Cafodd mam Richard, Peggy, ddiagnosis o ddementia yn 2021. Mae Richard yn dweud wrthon ni am y diagnosis, a pha gefnogaeth maen nhw wedi ei gael ers hynny.

Darllen mwy

Dyma Lowri, ein Rheolwr Rhaglen Dementia

Darllenwch flog Lowri am ei gwaith, a pham y mae'n teimlo bod gweithio tuag at Lwybr Gofal Dementia Cymru Gyfan mor bwysig i'n cymunedau.

Darllen mwy

Dewch i gwrdd â Rob, Nyrs Arweiniol mewn Iechyd Meddwl ym Merthyr Tudful a Cwm Cynon

Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Rob er mwyn dysgu ychydig mwy am ei brofiadau'n gweithio ym maes gofal dementia.

Darllen mwy
Rob Richards

Lowri Morgan, ein Rheolwr Rhaglen Dementia a Ceri Higgins, gofalwr di-dâl ac actifydd dementia, yn siarad â GTFM Radio am ddementia; o arwyddion, symptomau a diagnosis, i wasanaethau a chymorth.

Support and advice for dementia diagnosis

Gweithredu yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia

Os ydych chi'n poeni amdanoch chi'ch hun, neu aelod o'r teulu, mae'r dudalen ddefnyddiol hon yn rhannu llawer o wybodaeth am arwyddion a symptomau i gadw llygad amdanynt, a beth i'w wneud nesaf.

Darllen mwy
Grandfather with child

Gwasanaethau cof Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, o dîm ymyrraeth dementia arbenigol i wasanaeth asesu cof.

Darllen mwy

Dod o hyd i wasanaethau cymorth dementia lleol

Mae cyfeiriadur Cymdeithas Alzheimer yn cynnwys gwasanaethau sy'n lleol i Gwm Taf Morgannwg.

Chwiliwch yma

Camau i wella gofal a chymorth dementia

Mae set o 20 o safonau gorfodol sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau dementia. Gelwir y rhain yn ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan’.

Darllen mwy

Ydych chi eisiau helpu i ddylanwadu ar sut beth yw gofal a chymorth dementia yn ein rhanbarth? Cymerwch ran isod.

Ymunwch â ni i lywio’r ffordd y mae gofal a chefnogaeth yn edrych i bobl sydd â dementia, gofalwyr a’u teuluoedd.

Pan rydym i gyd yn dod at ein gilydd, rydym yn gwneud pethau yn well i bawb.

Cofrestrwch i gymryd rhan yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.