Wyddech chi fod dros 88,000 o bobl yn byw gyda dementia yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful

Mae llawer ohonom wedi clywed am ddementia, ond beth yw e?

Mae Cymdeithas Alzheimer yn disgrifio dementia fel ‘set o symptomau a all, dros amser, effeithio ar y cof, y gallu i ddatrys problemau, iaith ac ymddygiad’. Clefyd Alzheimer yw’r math mwyaf cyffredin o ddementia, ond mae sawl math arall hefyd.

Gall derbyn diagnosis o ddementia fod yn heriol, ond mae hi’n llawer gwell gwybod er mwyn i bobl allu cael y driniaeth a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt.

Bob blwyddyn bydd Cymdeithas Alzheimer yn nodi Wythnos Gweithredu ar Ddementia (15 –19 Mai). Mae’r ymgyrch flynyddol hon yn annog pobl i ‘weithredu ar ddementia’. Mae ffocws eleni’n syrthio ar ‘geisio diagnosis’, a bydd yn codi ymwybyddiaeth o’r symptomau i gadw llygad amdanynt, a manteision cael diagnosis.

Gyda dementia’n effeithio ar gynifer o deuluoedd, mae’n bwysig clywed am eu profiadau.

Cafodd Peggy ddiagnosis o ddementia ddwy flynedd yn ôl. Mae ei mab, Richard, yn rhannu eu stori.*

Helo Richard. Dywedwch wrthym am Peggy cyn iddi gael ei diagnosis.

Roedd fy mam yn dwlu ar arddio, a gofalu am bobl eraill, Roedd hi wastad eisiau rhoi’r gorau i’w theulu a’i ffrindiau, a fyddai hi byth yn gwario ceiniog arni hi’i hun! Byddai hi yno bob amser i bobl eraill, ac os oedd angen unrhyw beth ar rywun, byddai hi’n mynd yr ail filltir i’w helpu. Mae hi’n dal i fod yn berson rhagorol, gofalgar.

Pryd sylweddoloch chi am y tro cyntaf nad oedd Peggy’n ymddwyn fel hi ei hun?

Bydden ni’n arfer mynd am ddiwrnodau mas fel teulu, a dechreuon ni sylwi fod fy mam yn anghofio pethau drwy’r amser, ac yn diflannu i’w byd bach ei hun. Dwi’n cofio un diwrnod pan aethon ni am y dydd i Aberogwr, ac roedd hi’n wyntog, a chollodd hi ei balans – wnaethon ni ddim meddwl llawer am y peth, achos doedd y tywydd ddim yn wych, ac fe roeson ni’r bai ar hynny. Wedyn, dro arall, roedden ni wedi mynd i Aberhonddu, a chwympodd hi yn y tŷ bach a tharo’i phen ar y drws. Dechreuodd fy mam brofi drychiolaethau a newidiodd ei phersonoliaeth – roedd hi’n mynd yn fwy byr ei hamynedd nag arfer. Roedd hi’n ysu am fwydydd melys drwy’r amser, fel bisgedi a theisennau.

Pan wirion ni, sylweddolon ni nad oedd hi ddim wedi bod yn llyncu’i thabledi’n iawn, ac ar y cyd â’r holl symptomau eraill, roedden ni’n gwybod fod rhywbeth mawr o’i le.

Husband and wife reading

Beth wnaethoch chi nesaf?

Aethon ni at y meddyg teulu, ac roedd e’n ofni y gallai’i symptomau hi fod yn ddementia. Cyfeiriodd e ni at dîm asesu’r cof, a ddaeth i’r tŷ a gofyn i fy mam dynnu llun cloc a dweud pa flwyddyn oedd hi.

Doedd hi ddim yn gallu gwneud y pethau hyn, felly cafodd hi ei rhoi dan ofal ymgynghorydd yn yr ysbyty, wnaeth asesu fy mam a rhoi diagnosis iddi hi o ddementia. Esboniodd e’r diagnosis yn dda iawn i ni, ac roedd Mam yn deall beth roedd e’n ei ddweud.

Pa gefnogaeth gafodd Peggy a’ch teulu ar ôl i chi gael y diagnosis?

Roedd hi, ac mae hi o hyd, yn amser anodd iawn i ni. Doeddwn i erioed wedi clywed am ddementia cyn i fy mam gael y diagnosis, a doeddwn i ddim wedi sylweddoli’r effaith mae’n ei gael ar deuluoedd. Mae hi mor anodd gweld rhywun rydych chi’n ei garu’n diflannu o flaen eich llygaid.

Rhoddodd yr ymgynghorydd dabledi i Mam i arafu’i dementia hi. Ond yr hyn wnaeth y gwahaniaeth mwyaf oedd cael cymorth ymarferol gan wasanaethau.

Mae’r therapyddion galwedigaethol, gan gynnwys Zoe, Emma, Danielle ac Angela, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn rhagorol. Heb eu cymorth nhw, bydden ni wir wedi stryglo.

Fe wnaethon nhw drefnu bod fy mam yn mynd i glinig y cof yn Linc Cynon, Aberdâr, bob dydd Gwener. Mae hi’n dwlu mynd yno, am eu bod nhw’n gwneud llawer o weithgareddau hwyliog, gan gynnwys bingo, te prynhawn, chwarae gemau, canu a hyd yn oed wylio digrifwr. Mae hi’n ei fwynhau gymaint nes ei bod hi’n aml yn barod i fynd am 6.30am ar ddydd Gwener!

Maen nhw hefyd yn coginio cinio hyfryd gyda hi. Roedden ni’n ofni ei bod hi’n bwyta gormod o bethau melys, felly rydyn ni’n falch ei bod hi’n cael bwyd iachus a blasus yn y ganolfan.

Mae mynd i’r ganolfan wedi newid sut mae fy mam yn gweld ei dementia hefyd.

Fe drefnon nhw i rywun ddod i siarad â phawb am ddementia. O hynny ymlaen, dyw hi ddim wedi teimlo’n unig. Fe wnaeth hi lefain dagrau o ryddhad o wybod nad hi oedd yr unig berson oedd yn byw gyda dementia, ac mae wedi’i helpu i ddod i delerau â’r peth.

Mae’r therapyddion galwedigaethol wedi helpu’n fawr iawn gyda chymorth ymarferol gartref hefyd. Dyw fy mam ddim yn gallu coginio mwyach, felly maen nhw wedi rhoi dotiau lliw ar y meicrodon i’w helpu i ddeall am faint i dwymo pryd o fwyd. Er enghraifft, gall dot coch olygu munud, ac un gwyrdd olygu dau funud.

Mae gan Mam gymdoges arbennig iawn o’r enw Daisy, sydd wedi’i nabod hi ers dros ddeugain mlynedd.  Bydd Daisy’n galw i mewn ar Mam bob bore, a gwneud yn siŵr ei bod hi wedi llyncu’i thabledi a’i bod hi’n bwyta’n iawn. Mae’n tawelu ein meddwl i wybod fod rhywun mor rhagorol yn byw drws nesaf iddi, ac mae hi’n golygu popeth i ni.

Mae’r ochr gymdeithasol o bethau wedi bod mor bwysig. Mae’r holl gefnogaeth fel math amgen o feddyginiaeth – mae’n ei dyrchafu hi, ac yn ei helpu pan fydd hi’n isel.

I gloi, pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n gofidio amdanyn nhw’u hunain, neu anwylyn?

Plîs ewch at y meddyg teulu cyn gynted ag y gallwch chi, a gofynnwch am gymorth. Gallwch ddechrau ar y daith o gael atebion a help wedyn. Roeddwn ni mor falch o dderbyn yr wybodaeth. Mae wedi ein helpu ni i wybod sut i ofalu am fy mam, a deall sut i roi ansawdd bywyd da iddi hi wrth iddi hi fyw gyda dementia.

 

Thank you so much to Richard and his wife Jane for speaking with us.

Isod gallwch dod o hyd i wybodaeth yr ydym yn gobeithio y bydd yn eich helpu. Gallwch hefyd ddod o hyd i ffyrdd o gymryd rhan i’n helpu i wella gofal a chymorth dementia

https://ctmregionalpartnershipboard.co.uk/cy/dementia-action-week/  

Ym mis Mawrth 2023, fe wnaethom lansio ymgyrch newydd i godi safonau a gwella gofal dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful o’r enw ‘gwella bywydau drwy godi safonau a gwella gofal dementia.’

Drwy’r ymgyrch rydym yn gobeithio gwneud gofal a chymorth yn well i’r 88,317 o bobl sy’n byw gyda dementia yn y rhanbarth.

Mae’r ymgyrch yn cefnogi darpariaeth leol ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan’, a grëwyd gan Gwelliant Cymru mewn cydweithrediad â phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.

Cymerwch ran yn ein hymgyrch a dysgwch fwy yma.

*Mae enwau wedi cael eu newid. Mae delweddau’n stoc.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.