Dewch i gwrdd â Lowri, ein Rheolwr Rhaglen Dementia. Darllenwch ei blog am ei gwaith, a pham ei bod yn teimlo bod gweithio tuag at Lwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan mor bwysig i’n cymunedau.

Cyfoethogi bywydau trwy godi safonau a gwella gofal dementia.

Ym mis Mawrth, fe wnaethom lansio ymgyrch newydd i godi safonau a gwella gofal dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful o’r enw ‘gwella bywydau drwy godi safonau a gwella gofal dementia.’

Drwy’r ymgyrch rydym yn gobeithio gwneud gofal a chymorth yn well i’r 88,317 o bobl sy’n byw gyda dementia yn y rhanbarth.

Mae’r ymgyrch yn cefnogi darpariaeth leol ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan’, a grëwyd gan Gwelliant Cymru mewn cydweithrediad â phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.

Eich enw/rôl swydd

Lowri Morgan, Rheolwr Rhaglen Dementia Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg.

Eglurwch beth yw rôl eich swydd mewn ychydig frawddegau

Fel rheolwr y rhaglen dementia fy nghyfrifoldeb i yw helpu i wneud pethau’n well o fewn gofal a chymorth dementia ar draws y rhanbarth sy’n cynnwys; Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.

Fel partneriaeth rydym wedi ymrwymo i gydweithio i wella gwasanaethau a chymorth. Mae hyn yn golygu gweithio gyda’n cymunedau fel y gallant ddylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda phobl â dementia, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i weithio tuag at roi’r Cynllun Gweithredu Dementia a Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan ar waith.

Mae’r rhain yn set o 20 o safonau gorfodol sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau dementia.

Darllenwch fwy am hyn yma.

Mae ein Grŵp Llywio Dementia Rhanbarthol, sef partneriaeth rhwng iechyd, gofal cymdeithasol, gofalwyr a’r trydydd sector, yn helpu i yrru’r gwaith hwn yn ei flaen.

Couple reading

Pam fod yr ymgyrch newydd wedi cael ei lansio?

Mae Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan wedi’i greu i wella cymorth a gwasanaethau i bobl â dementia.

Mae’n bwysig iawn bod ein cymunedau’n ymwybodol o’r safonau fel y gallant gymryd rhan, a gweithio gyda ni i edrych ar sut y gallwn wella gofal a chymorth dementia.

Er y gall newidiadau gymryd amser, rydym yn ystyried popeth a wnawn fel gwir bartneriaeth ac rydym am ymuno â’n cymunedau cymaint ag y gallwn. Mae hyn yn golygu y gallant weithio gyda ni i wneud y newidiadau cywir i ddiwallu anghenion ein cymunedau.

Gyda’n gilydd rydym yn gobeithio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

At bwy y mae wedi ei anelu?

Rydym eisiau clywed gan bobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr, pobl sy’n gweithio gyda phobl â dementia, grwpiau dementia ac aelodau o’r gymuned a allai ddod ar draws pobl â dementia (e.e. perchnogion caffis, llyfrgellwyr, busnesau).

Pan fyddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd, rydyn ni’n gwneud pethau’n well i bawb.

Mother and daughter reading

Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni drwy'r ymgyrch?

Byddem wrth ein bodd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r safonau ac annog mwy o bobl o bob rhan o’n cymunedau a’n gweithleoedd i gymryd rhan yn yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella gwasanaethau dementia.

Rydym yn awyddus iawn i gael ystod amrywiol o bobl yn rhan o’n trafodaethau ac i helpu pobl i ddylanwadu ar y datblygiadau sy’n effeithio arnynt.

Pam fod y safonau'n bwysig?

Crëwyd y safonau gan Gwelliant Cymru a dros 1800 o bobl gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Dewiswyd y safonau fel y pethau pwysicaf a allai helpu i newid gofal, cymorth a diagnosis pobl â dementia ac effeithio’n gadarnhaol ar eu teuluoedd a’u gofalwyr hefyd.

Grandfather and grandson

Beth all pobl ei wneud i gymryd rhan?

P’un a ydych yn byw gyda dementia, yn ofalwr, neu’n gweithio gyda phobl y mae dementia yn effeithio arnynt, rydym am glywed gennych.

Fel cam cyntaf gallwch gofrestru i’n hymgyrch dementia ar ein gwefan.

Fel hyn gallwn gysylltu â chi am yr holl waith rydym yn ei wneud i wella pethau. Byddwch hefyd yn gweld unrhyw ddigwyddiadau neu hyfforddiant yr ydym wedi’u cynllunio.

Gallwch gael mynediad at lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan.

 

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.