Rob Richards

Gwella bywydau trwy godi safonau a gwella gofal dementia.

Ym mis Mawrth 2023, fe wnaethom lansio ymgyrch newydd i godi safonau a gwella gofal dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful o’r enw ‘gwella bywydau drwy godi safonau a gwella gofal dementia.’

Drwy’r ymgyrch rydym yn gobeithio gwneud gofal a chymorth yn well i’r 88,317 o bobl sy’n byw gyda dementia yn y rhanbarth.

Mae’r ymgyrch yn cefnogi darpariaeth leol ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan’, a grëwyd gan Gwelliant Cymru mewn cydweithrediad â phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Rob hefyd yn esbonio pam ei fod yn teimlo bod Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan mor bwysig.

 

Helo Rob. Beth mae eich swydd yn ei gynnwys?

Rwy’n nyrs arweiniol, yn cefnogi ac yn rheoli pob maes gofal iechyd meddwl ar draws Merthyr a Chwm Cynon.

Mae fy rôl yn cynnwys goruchwylio timau dementia sy’n cwmpasu gofal sylfaenol, gofal eilaidd, a gwasanaethau cleifion mewnol ac unedau dydd.

Rwy’n sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau diogel o ansawdd uchel, ac mae hyn yn golygu gofyn am farn staff a’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Pam mae Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan mor bwysig?

Mae’r llwybr safonau yn hanfodol i’r rhai sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Rwy’n falch eu bod wedi cael eu siapio gan y rhai y mae dementia yn effeithio arnynt a staff i wella gwasanaethau gan gynnwys cymorth cymunedol, diagnosis a gofal ysbyty.

Mae hwn yn gyfle i edrych ar wella gwasanaethau, a’n helpu i feddwl “y tu allan i’r bocs” o ran gyrru newidiadau cadarnhaol ymlaen.

Drwy ymuno â phobl yr effeithir arnynt gan ddementia a gofalwyr, gallwn symud tuag at gyrraedd y safonau ar lefel leol a rhanbarthol.
Bydd hyn yn ein helpu i godi safonau, gwella gofal dementia, a hefyd chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig â’r cyflwr.

Pam mae cymryd rhan yn ein hymgyrch ymwybyddiaeth yn bwysig i’r rhai sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal dementia?

Mae darparu’r gofal cywir i’r rhai sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd yn flaenoriaeth i ni i gyd.

Drwy gefnogi’r ymgyrch, gallwn helpu i rannu gwybodaeth am y safonau ac annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan. Mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae, beth bynnag fo’n rôl.

Husband and wife reading

Pam ei bod yn bwysig i ddyfodol gwasanaethau gofal dementia ledled Cymru gael eu cydgynhyrchu gan y rhai sydd â phrofiad o fyw gyda dementia?

Rwyf wedi cael y fraint o wneud gwaith cyd-gynhyrchu gyda Lleisiau Dementia, grŵp o bobl â phrofiad o fyw gyda dementia, a’u gofalwyr.

I’r rhai nad ydynt yn ymwybodol, mae cydgynhyrchu yn cynnwys y rhai sydd â phrofiadau o fyw gyda demtia a gweithwyr proffesiynol yn gweithio mewn partneriaeth i wella gwasanaethau.

Roedd gwrando ar y grŵp hwn yn rhoi dealltwriaeth dda i ni o’u profiadau o ofal, ac wedi ein helpu ni fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i weld persbectif gwahanol.

Mae’n hanfodol ein bod ni’n cynnwys pobl sydd â phrofiad o fyw gyda demetia yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud gan ei bod hi’n bwysig i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan ddementia gael llais wrth lunio gwasanaethau a chymorth.

Mae angen i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd i wneud y dewisiadau cywir fel y gallwn ddarparu’r gofal gorau posibl.

Mae parhau i weithio mewn ffordd gydgynhyrchiol, a gwrando ar leisiau a’u gwerthfawrogi yn gam pwysig tuag at hyn.

Grandfather with child

Ymunwch â ni i lunio’r ffordd y mae gofal a chymorth yn edrych ar gyfer pobl â dementia, gofalwyr a’u teuluoedd.

Cymerwch ran yn ein hymgyrch a dysgwch fwy yma.

 

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.