Dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Cyflwyniad

Gydag amodau byw gwell a gwell gofal iechyd gydol oes, mae disgwyliad oes Cwm Taf Morgannwg yn parhau i gynyddu. Serch hynny, i lawer o bobl, gall heneiddio ddod â heriau newydd fel unigrwydd, ynysrwydd neu broblemau iechyd mwy cymhleth.

Gwyddom fod pobl hŷn yn gwerthfawrogi eu hannibyniaeth a'u gallu i fyw yn eu cartref eu hunain cyhyd ag y gallant. Ein rôl ni yw sicrhau bod pobl hŷn yn cael yr help sydd ei angen arnynt i fyw bywydau iach, hapus ac annibynnol. Mae’n bwysig eu bod nhw’n teimlo bod ganddyn nhw lais a bod eu llais yn cael ei glywed.

Ein rôl

Sicrhau bod pobl hŷn yn gwybod sut y gallan nhw ddweud wrthym am unrhyw broblemau y gallen nhw fod yn eu hwynebu a sut y gallwn ni wella neu newid y gwasanaethau a’r cymorth a gynigiwn.

Er mwyn deall pa gymorth y gall fod ei angen, byddwn ni’n gweithio gyda phobl hŷn a sefydliadau sy’n eu cefnogi i wella a chreu gwasanaethau gwell.

Trwy’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rydyn ni’n cefnogi nifer o brosiectau sy’n newid iechyd a gofal cymdeithasol er gwell.

Rydyn ni wedi gweithio gyda phobl hŷn, eu teuluoedd a’u gofalwyr i nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella gwasanaethau a chymorth yng Nghwm Taf Morgannwg.

Dysgwch am ein blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer pobl hŷn yma.

Mae pobl hŷn wedi creu caneuon, darnau drama, cerddi a gwaith celf i ddod â’u profiadau’n fyw.

Darllenwch sut rydyn ni wedi clywed lleisiau pobl hŷn yma.

Byw gyda dementia

Rydyn ni'n gwybod y gall byw gyda dementia fod yn heriol. Darllenwch sut rydyn ni’n cefnogi pobl sy'n byw gyda'r cyflwr ar draws y rhanbarth.

Darllen mwy

Cyllid rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau

Mae ein Cronfa Integreiddio Ranbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dod â phobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i wella gwasanaethau i bobl.

Darllen mwy

Ydych chi'n berson hŷn, neu'n gweithio gyda phobl hŷn yn CTM? Cofrestrwch i gymryd rhan yn ein gwaith yma.

Hanesion am sut mae pobl hŷn yn cael eu cefnogi

Cymdogion Da

Mae Colin yn oedrannus, mae’n hoff o gerddoriaeth ac yn byw ar ei ben ei hun, tra bod Helen yn wirfoddolwr. Darllenwch sut mae'r gwasanaethau wedi helpu'r ddau ohonyn nhw.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Accessibility Tools