Swydd Cyd-gadeirydd Anableddau Dysgu Rhanbarthol
Mae'r swydd hon yn helpu i roi ffurf ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Mae’r swydd hon, â thâl, ar gyfer oedolyn ag anabledd dysgu sydd eisiau helpu i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Bydd y Cyd-gadeirydd yn defnyddio eu profiad byw i helpu i lunio penderfyniadau, cefnogi gwasanaethau gwell, a gwneud yn siŵr fod lleisiau’r bobl ag anableddau dysgu’n cael eu clywed.
Byddan nhw’n cael eu cyflogi a’u cefnogi gan sefydliad gwadd a fydd yn darparu cefnogaeth wedi’i deilwra yn ôl yr angen.
Gellir cael mwy o fanylion am y swydd a’r broses ymgeisio ar gyfer y Cyd-gadeirydd a’r sefydliad gwadd isod.
Gwnewch gais erbyn: 21 Mai
Mae swydd y Cyd-gadeirydd yn un bwysig o fewn y Grŵp Llywio Anableddau Dysgu.
Mae’r Grŵp Llywio Anableddau Dysgu’n goruchwylio’r gwaith sy’n digwydd ar draws ein Partneriaeth Ranbarthol i wella canlyniadau iechyd a llesiant i bobl ag anableddau dysgu.
Mae’r swydd yn helpu i sicrhau bod:
Bydd y Cyd-gadeirydd yn gweithio’n agos gyda:
Mae’r grŵp llywio’n cwrdd bob deufis, ar lein yn bennaf, gyda rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Rhaid i’r Cyd-gadeirydd:
Mae’r Cyd-gadeirydd:
Bydd y sefydliad gwadd yn darparu cefnogaeth o ddydd i ddydd, tra bo’r Rheolwr Rhaglen Partneriaeth Ranbarthol yn rhoi cefnogaeth broffesiynol ac o ran y rhaglen.
Bydd y sefydliad gwadd yn cyflogi’r Cyd-gadeirydd, a darparu cefnogaeth wedi’i theilwra sy’n canolbwyntio ar y person, i’w helpu i baratoi ar gyfer cyfarfodydd, cymryd rhan ynddynt a gwneud unrhyw waith sy’n deillio ohonynt.
Mae hyn yn cynnwys darparu:
Mae hon yn broses ymgeisio ar y cyd.
Rhaid i’r Cyd-gadeirydd a’r sefydliad gwadd wneud cais gyda’i gilydd,
Mae hyn yn golygu:
Cyn cyflwyno cais, a fyddech cystal â:
Rhaid cyflwyno ffurflenni Mynegi Diddordeb y cynheiliad a’r cyd-gadeirydd i Adam Kurowski Wakeford, Rheolwr Rhaglen Anableddau Dysgu Rhanbarthol, dros e-bost erbyn 5pm ar 21 Mai.
Gweler y dogfennau perthnasol isod:
E-bostiwch Adam.KurowskiWakeford@rctcbc.gov.uk i gyflwyno eich ffurflenni Mynegi Diddordeb, neu i holi unrhyw gwestiynau.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.