Rydyn ni eisiau sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, fel y gallan nhw gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.
Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:
Rydyn ni eisiau sicrhau bod gofalwyr a’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt yn gallu byw bywydau iach, sydd o fudd i’w llesiant emosiynol a chorfforol.
Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:
Rydyn ni eisiau sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael mynediad at weithgareddau cymdeithasol, hamdden, diwylliannol a hwyliog, ble bynnag y maen nhw’n byw, neu beth bynnag fo’u hamgylchiadau.
Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:
Mae dros 200 o bobl wedi bod yn rhan o greu'r blaenoriaethau hyn.
Bydd ein grŵp llywio gofalwyr di-dâl yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn.
Mae dros ddeg o ganeuon, cerddi, gweithiau celf a sgetsys drama wedi’u creu i rannu sut mae pobl yn teimlo am y themâu hyn.
Gallwch ddarllen beth ddywedon nhw wrthym yma.
Maen nhw’n seiliedig ar beth ddywedodd pobl wrthym oedd yn bwysig iddyn nhw.
Darllen mwyDrwy gydol y pum mlynedd byddwn yn rhannu diweddariadau ar gynnydd, ac yn gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau.
Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiadau byw, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i fod yn rhan o’n gwaith. Gallwch gofrestru ar gyfer ein tudalen gyswllt, a hefyd gofrestru i fynychu ein digwyddiadau.
Mae’r Cynllun Ardal Rhanbarthol llawn ar gael yn y ddolen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk.
Bydd ein grŵp llywio gofalwyr di-dâl, sy’n eistedd o dan ein Bwrdd Rhanbarthol Oedolion, yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn dros y pum mlynedd nesaf.
Ar y cyd â’n cynrychiolydd gofalwyr di-dâl, byddan nhw’n edrych ar sut y gellir cyflawni’r camau hyn mewn partneriaeth i wella gwasanaethau a chymorth.
Mae gofalwyr di-dâl a gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi wedi helpu i lunio’r blaenoriaethau hyn. Byddwn ni’n adolygu’r blaenoriaethau hyn yn flynyddol, ac yn parhau i gynnwys gofalwyr di-dâl a gweithwyr proffesiynol wrth eu gweithredu.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydyn ni eisiau sicrhau eich bod chi’n derbyn gwybodaeth gyfredol am bynciau sydd o ddiddordeb i chi. Cliciwch ar y ddolen i ddysgu sut allwch chi gadw mewn cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, unrhyw awgrymiadau neu os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw beth, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ymateb cyn gynted â phosib.