Cwrdd â gofalwyr di-dâl
Fel RPB, fe wnaethon ni gynnal cyfarfod gyda gofalwyr di-dâl i ddeall yr heriau a wynebwyd ganddynt, a hefyd beth allai gael ei wella er mwyn iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu cynnwys ac yn cymryd rhan yn fwy. Mae’r rheiny gymerodd ran yn y drafodaeth bellach yn rhan o’n Grŵp Gweithredu Cymunedol er mwyn i ni allu sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli.
Adnabod cyfleoedd
Gyda chynifer o sefydliadau a grwpiau cymunedol ar gael ledled Cwm Taf Morgannwg, gwyddom y bydd llawer o gyfleoedd i gael sgyrsiau ystyrlon gyda’n preswylwyr mewn amgylchedd sy’n addas iddyn nhw. Rydym wedi treulio ychydig o amser yn edrych ar yr holl ddigwyddiadau gwahanol sy’n digwydd ar draws y rhanbarth, a sut y gallwn ni gymryd rhan er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwrando ar ac yn clywed cynifer o bobl ag y gallwn
Ein cyfarfod cyntaf
Mae ein cyfarfod cyntaf fel grŵp yn digwydd ar 13 Awst. Byddwn ni’n rhannu diweddariadau o’r cyfarfod hwnnw, a byddwn hefyd yn dechrau cynllunio ein grwpiau ychwanegol a fydd yn cefnogi’r prif Grŵp Gweithredu Cymunedol; er mwyn edrych ar gyfathrebu ac ymgysylltu a chasgludata.
Cymryd rhan
Mae’n bwysig fod gennym ystod eang o bobl yn cyfrannu at ein hasesiad. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni yma here