I bobl hŷn aros yn iach gartref cyhyd â phosibl
Rydyn ni eisiau i bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i aros yn eu cartref cyhyd â phosibl, neu i ddychwelyd adref yn gyflym ar ôl cael eu derbyn i’r ysbyty.
I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:
- Gwella parhad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir i bobl hŷn
- Gwella dewis ac ymdeimlad o reolaeth o ran sut, ble a phryd y byddan nhw’n cael cymorth gan wasanaethau
- Gwella mynediad at wybodaeth berthnasol fel bod pobl hŷn yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael cyn i anghenion waethygu