Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig
Rydyn ni eisiau creu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a fydd yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu drwy gyfnodau pontio allweddol yn eu bywydau.
I wneud hyn, mae angen i ni sicrhau bod digon o amser ac ystyriaeth ar gael i ddarparu gwasanaethau. Rhaid i ni hefyd wneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl archwilio’r holl opsiynau posibl sydd ar gael iddyn nhw.