Gwella cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc
Rydyn ni eisiau gwella iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc sy’n byw yn ein rhanbarth, a chynyddu mynediad at gymorth.
Ein nod yw:
- Cydweithio i weithredu fframwaith NEST
- Cael gwell dealltwriaeth o’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i bobl ifanc, o’r rhai ataliol i’r rhai arbenigol
- Gwella gwybodaeth staff a gweithwyr proffesiynol ar draws y rhanbarth fel y gallant gefnogi pobl ifanc i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant
- Gwella cymorth arbenigol i blant a phobl ifanc sy’n profi problemau iechyd meddwl
- Lleihau’r amseroedd aros i blant a theuluoedd gael diagnosis o anhwylder niwroddatblygiadol