Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i gefnogi datblygu cyfleusterau llety preswyl newydd a gynlluniwyd gan ystyried plant a phobl ifanc. Byddwn ni’n gwneud hyn drwy helpu darparwyr i gael mynediad at arian i ddatblygu cartrefi. Dyma symudiad i gyfeiriad yr ‘agenda dileu elw’, model nid-er-elw a yrrir gan Lywodraeth Cymru. Ein nod yw sicrhau bod plant yn cael eu lletya mor agos i gartref â phosibl, yn agos at eu rhwydwaith cymorth ffrindiau a theulu.
Darllen mwy
Hoffem ymgysylltu â phartneriaid i ddeall cynlluniau i wella rhagolygon swyddi a sgiliau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau perthnasol i ddeall rhwystrau a chyfleoedd.
Er bod hyn y tu allan i gylch gorchwyl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, drwy gysylltu â phartneriaid, ein gobaith yw gallu:
Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaethau perthnasol i wella mynediad ac argaeledd mannau cymunedol i blant a phobl ifanc ar draws y rhanbarth.
Trwy’r gwaith hwn, rydym ni’n gobeithio:
Rydyn ni eisiau gwella iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc sy’n byw yn ein rhanbarth, a chynyddu mynediad at gymorth.
Ein nod yw:
Ein nod yw gweithio gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaethau eraill i gynyddu argaeledd a hygyrchedd gweithgareddau chwaraeon, hamdden, diwylliant a hwyl i blant a phobl ifanc.
Darllen mwyDrwy gyfrwng y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, byddwn ni’n ariannu gwasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd.
Darllen mwyMae dros 40 o bobl ifanc, pobl a gweithwyr proffesiynol wedi ymwneud â chreu'r blaenoriaethau hyn.
Bydd tri gweithgor yn symud y gwaith hwn yn ei flaen.
Mae dros 25 o ddarnau creadigol wedi’u creu i rannu sut mae pobl ifanc yn teimlo am y themâu hyn.
Gallwch ddarllen beth ddywedon nhw wrthym yma.
Maen nhw’n seiliedig ar yr hyn ddywedodd pobl ifanc wrthym oedd yn bwysig iddyn nhw.
Lleisiau plant a phobl ifancDrwy gydol y pum mlynedd byddwn yn rhannu diweddariadau ar gynnydd, ac yn gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau.
Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiadau byw, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i fod yn rhan o’n gwaith. Gallwch gofrestru ar gyfer ein tudalen gyswllt, a hefyd gofrestru i fynychu ein digwyddiadau.
Mae’r Cynllun Ardal Rhanbarthol llawn ar gael yn y ddolen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk.
Rydyn ni wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw, a pha gamau y mae angen eu blaenoriaethu. Byddwn ni’n parhau i gynnwys plant a phobl ifanc wrth ddylunio a gwerthuso gwasanaethau, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’u hanghenion.
Ariennir prosiectau ar gyfer plant a phobl ifanc gan Lywodraeth Cymru. Cydlynir y cronfeydd hyn drwy’r Uned Gomisiynu Ranbarthol gyda phartneriaid ar draws iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a’r sector annibynnol.
Bydd ein Bwrdd Gwasanaethau Plant Rhanbarthol nawr yn adolygu’r camau gweithredu sydd eu hangen i roi’r blaenoriaethau hyn ar waith; gweithio gyda gweithwyr proffesiynol a phobl â phrofiadau byw i wella gwasanaethau a chymorth.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydyn ni eisiau sicrhau eich bod chi’n derbyn gwybodaeth gyfredol am bynciau sydd o ddiddordeb i chi. Cliciwch ar y ddolen i ddysgu sut allwch chi gadw mewn cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, unrhyw awgrymiadau neu os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw beth, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ymateb cyn gynted â phosib.