Luke Takeuchi
Job Title: Is-gadeirydd a Phrif Weithredwr RHA Wales
Rydw i’n gweithio yn y sector tai cymdeithasol ers 18 mlynedd ar draws llywodraeth leol ym maes digartrefedd ac yna yn y sector cymdeithasau tai. Yn Lloegr, treuliais 8 mlynedd yn gweithio i un o gymdeithasau tai mwyaf y DU, sef Places for People. Yn 2014, ymunais â Chymdeithas Tai RHA Wales fel Cyfarwyddwr (sef Rhondda Housing Association gynt), a des i’n Brif Weithredwr arni 2018.
Rydw i wedi ymuno â’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol oherwydd fy mod i’n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac am wella partneriaethau a chyfleoedd rhwng iechyd, tai a gofal cymdeithasol.