Fel partneriaeth sy'n dod â gweithwyr proffesiynol a chymunedau at ei gilydd i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar ddeall profiadau pobl o deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed, a'u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau. Mae hefyd yn archwilio beth sy'n peri fod bod yn rhan o rywbeth yn teimlo'n ystyrlon a gwerth chweil.
Fel rhan o’r prosiect hwn rydyn ni’n cynnal cyfres o weithdai ar draws y rhanbarth yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia (18-24 Mai 2026).
Cynhelir sesiynau ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a / neu eu gofalwyr yn y lleoliadau canlynol (mae lleoedd yn gyfyngedig felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru er mwyn cymryd rhan):
- Dydd Mercher 20th Mai 13:00-15:00 YMa, Pontypridd, CF37 4TS – cofrestrwch yma, a gweld mwy o fanylion.
- Dydd Iau 21st Mai 10:00-12:00 yn Hwb Canol y Dref, Merthyr Tudful, CF47 8EL – cofrestrwch yma, a gweld mwy o fanylion.
Byddwn ni hefyd yn ymgysylltu â phobl yn y grŵp Feel Good for Life ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun 18 Mai fel rhan bwysig o’r gyfres hon o sesiynau cymryd rhan.
Os na allwch chi fynychu ar unrhyw un o’r dyddiadau uchod, peidiwch â becso, bydd mwy o weithgareddau’n cael eu cynllunio dros y misoedd i ddod.
Gydag un o bob tri yn cael eu heffeithio gan ddementia, mae Wythnos Gweithredu ar Ddementia’n rhoi goleuni ar y cyflwr, gan annog mwy o gysylltu, dealltwriaeth a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia, a’u teuluoedd.