Dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Os hoffech siarad gyda ni am deulu neu gael mynediad i'n hyfforddiant, gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth angenrheidiol yma!

Am y Gwasanaeth Meithrin Teuluoedd

Mae’r Gwasanaeth Perthynas Arbenigol Rhiant-Plentyn Bychan Meithrin Teuluoedd yn darparu ymyriadau therapiwtig ac ymgynghoriad a hyfforddiant gweithlu i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd yn ystod y mil o ddiwrnodau cyntaf (o feichiogi hyd at 2 flwydd oed).

Dr Nicola Canale

Ymarferydd Seicolegydd Ymgynghorol

Helo. Nicola ydw i, Seicolegydd Addysg Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Gwasanaeth Meithrin Teuluoedd. Mae gen i angerdd dros gefnogi babis, plant ifanc a rhoddwyr gofal yn ystod y mil o ddiwrnodau cyntaf mewn bywyd, ac rydw i wedi ymrwymo i wella canlyniadau drwy gefnogi perthynas feithriniol, ymatebol rhwng pobl, oddi mewn i deuluoedd ac o’u cwmpas, o ddechrau cyntaf bywyd.

Anfon e-bost atom

Geirda

“[Roedd yr hyfforddiant] wir yn ysbrydoledig, gyda llwyth o eiliadau bwlb golau i wella ein hymarfer… Dwi’n meddwl y byddai pob ymarferydd sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yn elwa o’r math hwn o hyfforddiant”

Dr Rachel Johnson

Seicolegydd Clinigol

Helo, Rachel ydw i, dwi’n Seicolegydd Clinigol sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Meithrin Teuluoedd. Dwi wir yn teimlo’r fraint o allu gweithio’n gynnar gyda theuluoedd mewn modd ataliol, gan gefnogi rhieni, darparwyr gofal, a babis yn ystod cyfnod mor bwysig yn eu bywydau.

Dwi’n teimlo’n angerddol dros greu lle ble gall teuluoedd deimlo’n ddiogel, ble maen nhw’n cael eu deall a’u clywed go iawn, ac am helpu rhieni i deimlo’n fwy hyderus a chysylltiedig yn eu perthynas â’u babi. Dwi hefyd yn gwerthfawrogi bod yn rhan o rwydwaith ehangach o weithwyr proffesiynol sy’n cefnogi teuluoedd, ac yn teimlo’n falch o fod yn gweithio law yn llaw â chynifer o bobl sydd wedi ymroi i gefnogi ein teuluoedd a’n cymunedau.

Anfon e-bost atom

Geirda

“mae’r gwasanaeth hwn yn adnodd gwych i helpu’r rhieni / babanod sydd eu hangen arnom fwyaf”

Ymarfer myfyriol ar gyfer ymarferwyr

Ymunwch â ni ar gyfer lle cefnogol, diogel i gysylltu â'ch gilydd a myfyrio ar eich gwaith gyda babis, plant ifanc, a theuluoedd.

Mae’r sesiynau hyn yn cynnig cyfle digynnwrf, di-feirniadaeth i oedi, meddwl a gwneud synnwyr o agweddau emosiynol a pherthynas eich rôl.

Archebu yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.