Sut fyddwch chi’n bwrw ymlaen â’r blaenoriaethau hyn ar gyfer pobl â dementia?
Ar hyn o bryd mae gennym 6 ffrwd waith sy’n edrych ar sut y gallwn ni wneud pethau’n well i bobl â dementia. Y chwe ffrwd waith yw:
1. Ymgysylltu Cymunedol
2. Gwasanaethau Asesu Cof
3. Cysylltydd Dementia
4. Siarter Ysbyty
5. Dysgu a gweithlu
6. Mesur
Gyda’i gilydd maen nhw’n adeiladu cynlluniau ac yn ymdrechu i sicrhau newid cadarnhaol yn seiliedig ar y safonau, ac mae beth ddywedodd pobl yn eu cymunedau wrthynt yn bwysig.