Sut ydych chi’n gwybod fod y blaenoriaethau hyn yn bwysig i blant a phobl ifanc?
Rydyn ni wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw, a pha gamau y mae angen eu blaenoriaethu. Byddwn ni’n parhau i gynnwys plant a phobl ifanc wrth ddylunio a gwerthuso gwasanaethau, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’u hanghenion.