
Anableddau Dysgu
Rydyn ni’n gwybod bod profiadau pobl o anableddau dysgu yn wahanol iawn. Ein nod ni yn hynny o beth yw eu helpu i leisio eu barn, fel y bo ganddyn nhw berchnogaeth a rheolaeth gryfach dros eu bywydau.
Darllenwch ragor
Pobl gydag anableddau corfforol a nam ar eu synhwyrau
Rydyn ni am sicrhau bod pobl gydag anableddau corfforol a namau ar y synhwyrau (pobl gyda golwg gwan/wedi colli eu golwg, a phobl fyddar (neu gyfuniad o’r namau hyn)) yn cael eu grymuso i wneud dewisiadau a theimlo’n rhan o’u cymunedau.
Darllenwch ragor
Iechyd meddwl
Rydym ni wrthi’n ystyried ffyrdd o hybu iechyd meddwl pobl sy’n byw yn CTM, Yn rhan o hynny y mae gwella systemau i ddarparu gwell gwasanaethau, a chwalu rhwystrau ac anghydraddoldebau.
Darllenwch ragor
Gofalwyr di-dâl
Ein nod yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn eu deall, a bod gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cyfoes fel grwpiau cymorth ar gael iddyn nhw.
Darllenwch ragor
Plant a phobl ifanc
Rydyn ni am i bob plentyn a pherson ifanc fyw bywydau iach a hapus. Er mwyn creu dyfodol gwell, mae angen i ni sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Darllenwch ragor
Pobl hŷn
Rydym ni’n sicrhau bod gan bobl hŷn y wybodaeth, y cyngor a'r gwasanaethau cywir, fel y gallan nhw wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol a chadw eu hannibyniaeth gyhyd ag y bo modd.
Darllenwch ragor
Awtistiaeth
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r maes iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector, y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ac Awtistiaeth Cymru i wella’r gwasanaethau a chymorth i bobl ag awtistiaeth.
Darllenwch ragor
Dementia
Rydym ni'n gwybod y gall byw gyda dementia fod yn heriol, ac rydym ni am sicrhau bod pobl sy'n byw gyda dementia yn teimlo eu bod nhw'n cael cefnogaeth a bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.
Darllenwch ragor